Melin Brynhafod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Sonnir am Felin Brynhafod mewn llythyr gan John Roberts, tenant Brynhafod Fawr, Capel Uchaf at Arglwydd Newborough ym 1857. Dywedodd iddo helpu ei dad, David Roberts, tenant Brynhafod Isaf, adeiladu melin yno. Nid yw'n eglur pa fath o felin ydoedd, nac ymhle: nid yw Brynhafod Isaf yn sefyll ar lan unrhyw nant neu afon o bwys.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/25733.