Meillionydd, Y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Saif Meillionydd ym mhentref Y Fron, ychydig is na’r hen ysgol sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol, a thŷ Plas Colley, ar y lôn sydd yn arwain at ben uchaf Chwarel Pen-yr-orsedd.

Meillionydd oedd un o dai mwyaf sylweddol y pentref pan y’i codwyd rywbryd tua 1850, ac yn breswylfod digon addas ar gyfer William Ellis Williams (1812-1874) a oedd yn byw yno gyda’i deulu ym 1861. Roedd o’n asiant Chwarel Cilgwyn. Adeg y Cyfrifiad ym 1861, roedd yn 49 oed, a’i wraig Catherine (1813-1891) flwyddyn yn iau. Roedd ganddynt chwech o blant, tri mab a thair merch, a’r hynaf yn 20 oed ac yn gweithio fel chwarelwr. Ymhen deng mlynedd, a’r teulu'n dal i fyw yno, roedd y tad wedi’i ddyrchafu’n rheolwr y chwarel, a’r mab hynaf, Robert, a’r ail fab, Henry, ill dau wedi cael hen swydd eu tad fel asiantwyr y chwarel. Erbyn 1881, William (mab arall William Ellis Williams), a fu am gyfnod yn Awstralia, oedd yn byw yno, gyda’i wraig Elisabeth a chwech o blant. Roedd y William hwn yn asiant chwarel hefyd, a’r teulu’n ddigon cefnog i gadw morwyn ifanc, Jane Hughes. Ym 1891, roedd y teulu’n dal yno a William wedi ei ddyrchafu’n rheolwr y chwarel - ond nid oedd y teulu’n cadw morwyn bellach. Ym 1901, tri o blant y teulu oedd yn cael eu rhestru gan y cyfrifiad fel rhai a oedd yno ar noson y cyfrif: Kate, 32 oed ac yn ysgolfeistres; Jeannette, a William H. Williams, ill dau’n 15 oed. Dichon fod eu mam i ffwrdd ar y pryd, gan ei bod hi, sef Elisabeth Williams (yn weddw erbyn hynny), yno ym 1911, ac yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Dim ond un o’i phlant oedd yn dal adref, sef William Henry, ac yntau’n ddi-briod ac yn gweithio mewn chwarel fel pwyswr llechi - sef swydd gymharol gyfrifol. Ymddengys felly fod Meillionydd wedi bod yn gartref i un teulu o’r cychwyn hyd 1911 o leiaf.[1]

Bu dwy o ferched Ellis a Catherine Williams yn byw yn yr Aifft am nifer o flynyddoedd. Priododd un o’u merched – Catherine (Kate) Williams (1857-1921) ag Edward Davies Bryan ym 1891. Roedd brodyr Edward, John a Joseph, yn werthwyr dillad yng Nghaernarfon (Siop Brodyr Bryan - 12, Y Bont Bridd) ond roeddynt yn hanu o ardal Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Ym 1888 ymfudodd Edward at ei frawd Joseph, a oedd wedi sefydlu siop yng Nghairo, ac yno aeth Kate wedi ei phriodas gan ddychwelyd i Gymru ar gyfer genedigaeth eu hunig ferch Olwen ym 1895. Bu chwaer ieuengaf ddi-briod, Ellen Williams (1860-1928), yn byw gyda Kate ac Edward yn yr Aifft am y rhan fwyaf o’i hoes. Y chwaer hon a gadwai ‘Siop yr Aifft’ ar Stryd Llyn, Caernarfon.

Erbyn diwedd yr 1890au a dechrau’r ugeinfed ganrif roedd y Brodyr Davies Bryan yr Aifft yn enwog ymysg y Cymry am eu croeso cynnes ac ymwelodd nifer o bobl amlwg y cyfnod â’r teulu, gan gynnwys yr aelod seneddol Tom Ellis [2] a'r bardd T. Gwynn Jones [3]. Gyda llwyddiant y busnes yn yr Aifft adeiladwyd tŷ mawr moethus ym mhorthladd Alexandria o’r enw ‘Hafod’ a fu'n noddfa i sawl milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymwelydd cyson yno oedd y bardd a’r cerddor Robert Bryan[4], brawd arall i Edward, a arferai dreulio’r gaeafau yn yr Aifft oherwydd ei iechyd bregus. (Bu Robert Bryan yn athro yn Ysgol Tal-y-sarn am gyfnod byr ond rhoddodd y gorau i'w swydd oherwydd gwaeledd.)

Bu farw Kate yn yr Hafod, Alexandria, ym 1921 a fe’i claddwyd ym mynwent Brotestannaidd Chatby yno ond mae cofeb iddi ar waelod y bedd teuluol ym Mynwent Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon (ochr ddeheuol y fynwent gyda cholofn, cronnell a rheiliau haearn) gyda chwpled o waith ei brawd-yng- nghyfraith Robert Bryan wedi ei thorri arni.[5]

Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn) yn gefnder iddo.[6]

Wedi i deulu Williams adael yr eiddo, credir fod dyn a fasnachai fel cigydd, Thomas Roberts, wedi byw yno cyn iddo symud yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr.[7]

Erbyn hyn, mae adeiladau Meillionydd wedi’u troi’n fythynnod haf a osodir i ymwelwyr ers sawl blwyddyn ond, yn y 1980au a'r 1990au, bu’n westy llwyddiannus ac yn gyrchfan i gymdeithasau ar gyfer pryd allan.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-1911
  2. Gwefan Wicipedia, [1]
  3. Gwefan Wicipedia[2]
  4. Gwefan Wicipedia, [3]; Gwefan Y Bywgraffiadur Ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BRYA-ROB-1858#?]
  5. Siân Wyn Jones, O gamddwr i Gairo: Hanes y Brodyr Davies Bryan (1851- 1935), Llyfrau’r Bont, 2004.
  6. Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [4], cyrchwyd 12.04.2022
  7. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.