Marian Elias Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Marian Elias Roberts yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach.

Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr, yn un o bedwar o blant Robert a Deilwen Elias. (Hanai ei mam o'r Wern, Llanfrothen ac roedd ei thaid Thomas Richards yn englynwr o fri gyda'i englyn enwog i'r Ci Defaid yn gampwaith.) Ar ôl cael addysg gynradd yn ysgol Clynnog ac uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n cyflawni swyddi gweinyddol i wahanol gyflogwyr, megis y BBC a Choleg Glannau Dyfrdwy, a bu hefyd yn hyfforddi myfyrwyr mewn medrau ysgrifenyddol a rheoli swyddfa.

Priododd ym mis Mawrth 1984 â'r actor a'r awdur Guto Roberts(Guto Rhos-lan) ac fe wnaethant ymgartrefu i ddechrau yn Garreg Boeth, Capel Uchaf. Roedd y ddau'n rhannu'r un delfrydau a gwerthoedd â'i gilydd a chawsant bymtheg mlynedd o fywyd priodasol dedwydd cyn i afiechyd oddiweddyd Guto, a fu farw ym 1999. Bu'r ddau'n weithgar iawn gyda phapur bro Lleu gan gyfrannu llawer o erthyglau iddo ar amrywiol bynciau. Buont hefyd yn aelodau o Gyngor Cymuned Clynnog am rai blynyddoedd cyn iddynt symud i fyw i'r Groeslon ym 1994. Fe wnaethant ymroi'r frwd yn ogystal i gynnal digwyddiadau i godi arian at Gronfa Goffa Saunders Lewis a hefyd gymryd rhan flaenllaw yn yr ymdrech i adfer Cae'r Gors yn waddol deilwng o athrylith Kate Roberts. Gweithgaredd arall o'u heiddo oedd sefydlu Yr Hen Wlad, cyfnodolyn chwarterol i drigolion Y Wladfa yn rhoi gwybodaeth iddynt am ddigwyddiadau cyfredol yng Nghymru.

Ar ôl colli ei phriod dychwelodd Marian i fyw i Glynnog a chyflawnodd waith gorchestol yn y blynyddoedd a arweiniodd at sefydlu Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2006, gan gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith llafurus o ymgeisio am grantiau o amryfal ffynonellau i sefydlu'r Ganolfan. Ers ei sefydlu mae wedi gweithredu'n ddi-dor fel ei hysgrifennydd hynod weithgar a chydwybodol. Yn ogystal, dan nawdd y Ganolfan, cyhoeddodd gyfrol ddifyr ar hanes Teulu Tan Clawdd, cynheiliaid hen ffordd o fyw sydd mor agos at ei chalon.