Manganîs y Gurn Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae olion cloddiant am fwyn Manganîs ar hyd carneddi’r Gurn Ddu, yn ardal Llanaelhaearn. Ceir un o’r tyllau hyn yn Y Seler Ddu ac fe'i gelwid yn waith Seler Ddu neu waith Bwlch Mawr.

Gellir gweld yr olion hyn ar fap, drwy ddefnyddio cyfeirnod grid SH431471.

Nid oedd y diwydiant hwn mor llwyddiannus a’r diwydiant ithfaen a oedd yn ffynnu yn yr ardal. Er hyn, gellir gweld fod y carneddi wedi bod o ddiddordeb mawr, gan fod olion hen aneddiadau yno sy’n perthyn i’r oes efydd.

Rhwng 1872 a 1876, roedd y gloddfa manganîs yn cynhyrchu allbwn o 50 tunnell, ac yn cael ei rhedeg gan John Cowper.

Ffynonellau[golygu]

The Manganese Mines of North Wales, British Mining No. 14, C.G. Down

Cofnod o Garneddi’r Gyrn Ddu ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Cofnod o’r gloddfa manganis ar wefan y Comisiwn Brenhinol