Maes Awyr Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Y Maes Awyr o'r awyr, 2003
Hen dŵr rheoli 2il Ryfel Byd ger Caernarfon cc-by-sa/2.0 - © Angus McCulloch - geograph.org.uk/p/865443
Yr hen dŵr rheoli yn ei ddyddiau olaf

Maes Awyr Caernarfon yw enw presennol y maes awyr ar Drwyn Dinlle a adeiladwyd ym mis Ionawr 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ar gyfer y llu awyr a'i alw'n "RAF Llandwrog". Cyn hynny, roedd y safle wedi bod yn faes hyfforddi gyrru tanciau.[1] Pwrpas y maes awyr hwn oedd gwasanaethu fel canolfan hyfforddi llyw-wyr, gweithredwyr radio a magnelwyr awyrennau bomio. Tua chanol 1942, peidiodd y hyfforddi hwnnw, ac o hynny ymlaen tan 1945 roedd yr osaf yn dod o dan uned hyfforddi RAF Penrhos. Fe'i caewyd fel maes awyr RAF ym 1946, ond am 10 mlynedd wedyn bu'n safle storio bomiau cemegol Almaenig y cafwyd hyd iddynt yn yr Almaen ar ddiwedd y rhyfel. Roedd rhai o'r rhain yn cynnwys nwy nerfol. Fe'u hallforiwyd wedyn oddi ar y safle trwy ddoc Caer Belan a'u gollwng yn y môr rai cannoedd o filltiroedd oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon.[2][3]

Ym 1942, sylwodd swyddog meddygol yn y llu awyr, Liwtenant George Desmond Graham, fod llawer o ddamweiniau awyrennau'n digwydd ym mynyddoedd Eryri, a sefydlodd dîm achub mynydd gwirfoddol yma. Datblygodd y tîm hwn, a thimau eraill cyffelyb, yn Wasanaeth Achub Mynydd y Llu Awyr ym 1943, gwasanaeth a fu'n hanfodol i achub morwyr a dringwyr ar draws ynysoedd Prydain tan yn ddiweddar iawn, yn ogystal â darparu gwasanaeth achub i'r llu awyr ei hun.[4]

Gwelir llawer o hen adeiladau a murddunod o amser y rhyfel o hyd ar y maes awyr ei hun ac yn ei gyffiniau. Ysywaeth, tynnwyd yr holl hen awyrendai, neu hangers, i lawr yn y 1950au. Defnyddid y tŵr rheoli gwreiddiol tan yn ddiweddar, pan godwyd adeilad talach ychydig i'r gorllewin, gan ddymchwel yr hen un.

Mae'r maes awyr yn cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer hedfan pleser ac awyrennau preifat (gan gynnwys microawyrennau), ond cynigir cyfleon masnachol i hedfan o gwmpas yr ardal. Ers troad y ganrif mae'r Ambiwlans Awyr wedi cadw un o'i hofrenyddion yma, ar gyfer argyfyngau sy'n codi yng ngogledd Cymru; ac ers 2015 mae'r gwasanaeth achub môr a mynydd a gynhelid gynt gan y llu awyr yn Y Fali wedi cael ei drosglwyddo i safle newydd ym maes awyr Caernarfon, lle mae asiantaeth breifat Bristow yn gweithredu ar ran Gwylwyr y Glannau. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle, yn ogystal ag amgueddfa hedfan.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau