Llyn Nantlle Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Lithograff o 1854 yn dangos Llyn Nantlle Isaf. Sylwer ar domen a gwaith Chwarel Dorothea'n dechrau amharu ar y llyn

Safai Llyn Nantlle Isaf ar lawr Dyffryn Nantlle gyferbyn â Phlas Tal-y-sarn i'r gogledd a Gwernor i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â Llyn Nantlle Uchaf gan ddarn byr o Afon Llyfni a redai drwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfni allan o'r llyn ger Pont Sarn Wyth-dŵr.

Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.

Roedd Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Dorothea ar y glannau gogleddol a Chwarel Gwernor i'r de ac o dipyn i beth fe gyfyngwyd ar faint y llyn trwy i'r chwareli ollwng gwastraff i'r dŵr. Gan fod chwareli Dyffryn Nantlle ar ffurf tyllau mawr dwfn o dan lefel y tir amgylchynol, roedd perygl cynyddol y byddai dŵr y llyn yn rhedeg i mewn i'r twll, a digwyddodd hynny ym 1884. Wedi dargyfeirio'r afon, dechreuodd wagio'r llyn o dipyn i beth ym 1894.[1]

Roedd cryn dipyn o'r llyn wedi diflannu dan y tipiau erbyn arolwg Ordnans 1888 ac erbyn 1901 roedd y llyn wedi colli tri chwarter yr arwynebedd oedd iddo 13 mlynedd ynghynt. Roedd cwrs Afon Llyfni wedi ei wyro at ochr Gwernor i'r dyffryn tua 1891,[2] gan adael llawer o dir corsiog gyferbyn â Chwarel Dorothea. Erbyn 1913, dim ond pwll corsiog oedd ar ôl yn llawn brwyn, ac erbyn map 1949 roedd y map yn dangos nad oedd llyn yno o gwbl, a hyd yn oed enw'r llyn wedi'i ddileu - er i'r llyn uchaf ddal i gael ei alw'n Llyn Nantlle Uchaf ar y mapiau.[3]

Erbyn hyn nid oes dim o'r llyn ar ôl eithr tir gweddol gorsiog ar waelod y rhan honno o'r dyffryn.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 53 a'r capsiwn
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn
  3. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, i'w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, [1]