Llyn y Gele

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llyn-y-gele)
Jump to navigation Jump to search

Fferm ger y brif ffordd o Gaernarfon i Bwllheli ydy Llyn y Gele, Pontlyfni. Llyn Gela ar lafar. Y perchennog presennol ydy William Vaughan-Jones ac roedd ei dad a'i daid o'i flaen yn ffarmio'r tir. Nid yw Llyn y Gele yn fferm weithredol erbyn hyn. Ar hyn o bryd, mae maes carafanau ar dir y fferm a’r busnes hwn yn nwylo’r ddwy ferch sef Caryl a Sioned a’u teuluoedd.

Ystyr yr enw[golygu]

Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apothecarïaid fel y gelwid hwy cyn hynny, i gasglu gelod (leeches) i drin eu cleifion. Am ganrifoedd bu gelod yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn meddygaeth i sugno gwaed o amgylch briwiau ac yn y blaen er mwyn tynnu amhureddau o'r corff a hefyd wella cylchrediad y gwaed ac atal ceuledau. Fodd bynnag, wrth i feddygaeth ddatblygu fel proffesiwn modern, a chyda'r cynnydd mewn defnyddio cyffuriau cemegol, aeth defnyddio gelod yn hynod anffasiynol a'i gysylltu â "meddygon cwac" i bob pwrpas. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae defnyddio'r creaduriaid hyn wedi cael ei ailsefydlu yn y byd meddygol proffesiynol ac maent yn cael eu magu mewn labordai at ddefnydd meddygon. Bellach mae triniaethau'n defnyddio gelod yn cael eu defnyddio a'u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y therapïau hyn ar y rhyngrwyd, megis taflen gyda'r teitl Leech Therapy - Information for Patients gan Oxford University Hospitals NHS Foundation Trust.

Yn ôl Syr Ifor Williams, fodd bynnag, mae tri ystyr posib i'r enw:

  • a] Llyn y Gelod. Defnyddid gelod i sugno gwaed amhur a manylir ar y feddyginiaeth boblogaidd hon yn Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams, Y Lolfa, 2017.
  • b] Llyn y Gelain sef 'celain' 'meirw' a hyn yn cysylltu â'r Mabinogi
  • c] Gele yw afon gul fel blaen saeth gw. Abergele

Dylid nodi enwau caeau Llyn y Gele: Bryn y Beddau, Cae Pen Deg ar Hugain, Bryn Cyrff. Heb fod nepell mae Maen Dylan.

Teulu Llyn y Gele[golygu]

Mab Bryn Gwydion, Pontllyfni, Owen Jones ddaeth i fyw i Lyn y Gele tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Chwaer Owen Jones, Mary oedd mam gwraig David Lloyd George, Margaret. Priododd Mary a symud i Fynydd Ednyfed. Yn ôl y sôn yn Llyn-y-gele hefyd y dyweddïodd David Lloyd George a'i ddarpar-wraig, Margaret, merch fferm Mynydd Ednyfed, Cricieth. Roedd Margaret yn perthyn i deulu Llyn-y-gele ac wedi dod yno am gyfnod o wyliau. Pan glywodd Lloyd George, a oedd eisoes wedi dechrau ei chanlyn, ei bod yno, prysurodd am Lyn-y-gele a gofyn ar ben grisiau llofft yr ŷd iddi ei briodi yn slei yn y fan honno, gan nad oedd teulu Mynydd Ednyfed yn cymeradwyo'r berthynas i bob golwg. Beth bynnag, dyweddïo a fu ac fe'u priodwyd yn ddiweddarach yng Nghapel Pencaenewydd.

Yn wreiddiol, roedd Llyn y Gele y perthyn i stad Llwyn y Brain, Llanrug [Plas Seiont bellach]. Hen daid Willam Vaughan Jones oedd Robert o Dyddyn Mawr. Taid Wil oedd William a chafodd bedwar o blant, John [Joni], Mary, Jennie a Laura. Bu Laura farw tua 1918 o'r Ffliw Mawr. Daeth William i Lyn y Gele tua 1920. Priododd Jennie â John Pritchard Jones a byw yn Bodryn, Llandwrog cyn dod i fyw i Lyn y Gele ar ôl marw Joni tua 1960. Mab Jennie a John Pritchard Jones ydy William Vaughan Jones, y perchennog presennol.

Bryn Beddau[golygu]

Enwir [Bryn] Gwdion, Bryn Arien (Brynaerau), Bedd [Maen] Dylan ac ati ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Credai Syr Ifor Williams nad yr hyn a elwir y Brynaerau presennol rhyw dri chwarter milltir o Bontlyfni, sydd â chapel, plas a ffarm o’r enw hwnnw, oedd union leoliad Bryn Arien y Mabinogi ond yn hytrach y Bryn Beddau hwn ar dir Llyn Gela: “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien. Rhed i’r môr ym Mhwynt Maen Dylan..." [1]

Ar Ebrill 1af 1830 ceir hanes James Forbes, 22 oed, yn rhedeg ar draws y caeau ac yn taflu ei hun dros y clogwyn ym Mryn Beddau. Roedd llafurwyr yn gweithio mewn cae cyfagos, rhedasant yno a bu farw yn fuan wedyn. Roedd y gwymp tua 25 llath. Pan archwiliwyd y corff canfuwyd llythyr yn ei boced yn hysbysu ei fod yn rhoi pen am ei fywyd. Roedd yn fab i Charles Forbes o Ynys Jamaica ac roedd ei frawd, Neil, yn aros yn Ystumllyn ar y pryd ac oddi yno yr aeth i’r fan hon i farw. Fe’i claddwyd yn Ynys Cynhaearn. [2]

Cloc Haul Clynnog Fawr[golygu]

O Lyn y Gele y daeth y cloc haul hynod sydd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, y tybir ei fod yn dyddio o’r wythfed neu’r nawfed ganrif. “Mae yna bistyll yng ngardd Llyn Gela a’r dŵr yn rhedeg iddo o Lleuar Bach ac roedd yna do bach dros y pistyll,” meddai W. Vaughan-Jones. “Be’ oedd o ond hen, hen gloc haul, a phan ddeallodd Frederick George Wynn, Glynllifon, beth oedd o, mi ofynnodd i ‘Nhaid a gâi ei godi a’i roi i Eglwys Clynnog. Dyna a fu ac mi gododd Glynllifon gwt dros y pistyll.” Tua chanrif ynghynt roedd y cloc wedi cael ei ddefnyddio fel pont i groesi ffrwd Melin Glan-Môr, Aberdesach.[3]

Sioe Pontlyfni[golygu]

Cynhelid sioe amaethyddol ardderchog ar gaeau Llyn y Gele yn y 1980au a’r 1990au, dan ddylanwad Huw Geraint Williams, y milfeddyg: achlysur poblogaidd a derbyniol iawn a’r Gymraeg oedd yn cael y lle blaenllaw am unwaith. Byddai yno gystadlaethau cynnyrch gardd a choginio ac uchel seinydd yn cyhoeddi gwahanol gystadlaethau ym myd y ceffylau, defaid cŵn ac adar.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Syr Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, (Caerdydd, (ail argraffiad) 1951) tt.278-9.
  2. Alltud Eifion (Robert Isaac Jones), Y Gestiana (Tremadog, 1892) t.133 (Adargraffwyd i ddathlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Dwyfor, 1975, a gyhoeddwyd gan Wasg Tŷ ar y Graig ac a argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych).
  3. Nancy Edwards, A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Cyfrol III North Wales,(Caerdydd, 2013) tt. 264-6.