Llwybr yr Arfordir

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ei greu ar ddechrau'r 21g. ar hyd holl arfordir y wlad, gan ffurfio'r llwybr hamdden hiraf sydd gan unrhyw wlad yn y byd. Yn Uwchgwyrfai, fodd bynnag, ceir un o'r darnau mwyaf diflas i gerddwyr, gen ei fod bron i gyd yn defnyddio ffyrdd tarmac a phalmentydd. Daw i mewn i Uwchgwyrfai o'r gogledd dros Bont Faen, ac yn dilyn y ffordd am Landwrog trwy Saron ac wedyn yn troi ar hyd y ffordd am Foryd Bach. Wrth fferm Chatham ceir un o'r tri darn o'r llwybr yn Uwchgwyrfai sydd oddi ar y ffordd, sef Llwybr y Cob, cyn troi a mynd wrth ochr Maes Awyr Dinas Dinlle. Dilynai'r llwybr ar ben y traeth i'r de, cyn ailymuno â'r ffordd, ac yn mynd heibio i dai Pen-y-bythod a Bodfan. Wrth gyrraedd y ffordd fawr (A499), mae'r llwybr yn dilyn y llwybr beicio tarmac sydd hefyd yn bafin yr holl ffordd i Ben-lon Trefor, cyn troi i lawr am y pentref hwnnw. Wrth gyrraedd y pentref, ceir y darn olaf o'r llwybr yn Uwchgwyrfai sydd oddi ar y ffordd, heibio'r harbwr ac o gwmpas Trwyn-y-tâl, cyn mynd heibio i Sychnant ac yn dringo i ben Bwlch yr Eifl lle mae'n mynd allan o Uwchgwyrfai.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]