Lleu Llaw Gyffes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Lleu Llaw Gyffes oedd prif arwr Pedwaredd Gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy.

Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar gysylltiadau cwmwd Uwchgwyrfai â digwyddiadau yn chwedl Math fab Mathonwy.

Ystyr enw Lleu Llaw Gyffes yw'r "un disglair a sicr ei law" a chredir mai'r un un i bob pwrpas ydoedd â Lugh yn chwedloniaeth Iwerddon. Roedd gan y rhain nodweddion goruwchnaturiol a dwyfol ac yn yr hanesion amdanynt gwelir adleisiau o'r hen dduwiau Celtaidd a addolid ar un cyfnod ar hyd a lled gorllewin Ewrop.

Roedd Lleu yn fab i Arianrhod a chymaint oedd ei chasineb tuag ato fel iddi roi tair tynged arno, sef na chai enw nes byddai hi ei hun yn ei enwi, na chai arfau nes byddai hi'n eu rhoi amdano ei hun, ac na chai byth briodi â merch ddynol. Fodd bynnag, mae ei ewythr Gwydion (sy'n ddewin nerthol a hefyd yn frawd i Arianrhod) yn defnyddio ei ddoniau dewinol i beri i Arianrhod roi enw, sef Lleu, i'w mab yn ogystal ag arfau; ac yna gyda chymorth Math, mae Gwydion yn creu gwraig i Lleu allan o flodau'r maes, sef Blodeuwedd.

Ond mae Blodeuwedd yn troi allan yn wraig ddrwg a digydwybod. Pan mae Lleu i ffwrdd mae'n denu Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, yn gariad iddi ac maent yn cynllwynio i ladd Lleu, ond mae honno'n dasg bur anodd. Mae Blodeuwedd yn llwyddo i gael gwybod gan Lleu sut y gellir ei ladd. Rhaid ei daro â gwaywffon wenwynig pan mae'n sefyll gydag un droed ar gefn bwch gafr a'r droed arall ar gafn o ddŵr ar lan afon. Mae Blodeuwedd yn rhoi'r wybodaeth honno i Gronw yn ddirgel ac mae'n llwyddo i gael Lleu i ddangos iddi sut y byddai'n sefyll yn y ffordd ryfedd honno. Ac yntau ag un droed ar gefn y bwch gafr a'r llall ar y cafn dŵr, mae Gronw'n dod o'r tu ôl iddo a'i daro yn ei gefn gyda'r waywffon wenwynig. Ond yn hytrach na marw mae Lleu'n troi'n eryr mawr a hedfan i ffwrdd. Flwyddyn yn ddiweddarach mae Gwydion yn dod ar draws yr eryr clwyfedig yng nghanghennau'r dderwen enwog yn Nyffryn Nantlleu (Nant Lleu) ac yn llwyddo i droi Lleu yn ôl yn ddyn, er ei fod mewn cyflwr truenus. Ond mae Gwydion yn defnyddio ei ddoniau dewinol i'w adfer i iechyd llawn. Yna, maent yn talu'r pwyth yn ôl i Gronw a Blodeuwedd. Rhaid i Gronw sefyll fel Lleu ar gefn bwch gafr a chafn dŵr ac mae Lleu yn hollti ei gefn â gwaywffon a'i ladd, a chaiff Blodeuwedd ei throi'n dylluan gan Gwydion.

Mae cymaint o hud a lledrith a mytholeg yn gysylltiedig â Lleu fel ei bod yn debygol iawn mai hen dduw Celtaidd ydoedd yn wreiddiol. Yn un peth roedd ei enedigaeth yn oruwchnaturiol gan iddo gael ei eni i'r wyryf Arianrhod, ac roedd ei allu i newid ei ffurf hefyd mae'n debyg yn arwydd o'i ddwyfoldeb gwreiddiol. Hefyd mae ei gysylltiadau â goleuni a choed derw yn briodol i dduw Celtaidd. Ar y cyntaf o Awst bob blwyddyn dathlai'r Celtiaid un o'u pedair prif ŵyl, sef y Lughnasad, a oedd wedi ei chysegru i Lugh, Lugos, neu Lleu'r hen Gymry.

Cyfeiriadau[golygu]

Y Mabinogion, Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980), tt.48-66. Miranda J. Green, Dictionary of Celtic Myth and Legend, (Thames and Hudson Ltd, Lludain, 1992), t.133.