Llethr Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.

Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws, a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:

Da i Wynedd oedd eni
Y tair Nest i'n tir ni.

Mae hanes manwl y teulu i'w gael yn yr erthygl ar Teulu Evans, Llethr Ddu. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd ag aeres Llethr Ddu tua 1650.[1] Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.

Erbyn 1831, David Williams oedd tenant Llethr Ddu, gan brofi'n bendant fod y teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.[2] Yn rhestr bennu'r degwm ym 1840, fe ddangosir mai David Williams oedd y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer a oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae'r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhentu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.[3]

Erbyn 1864 fodd bynnag y mae'n amlwg mai Ystad Glynllifon oedd yn berchen ar Lethr Ddu, gan fod Arglwydd Newborough wedi adnewyddu prydles ar y fferm i'r tenant Owen Roberts.[4] Roedd Owen Roberts a'i wraig Jane wedi bod yn denantiaid yno ers o leiaf 1858 gan fod cofnod eu bod yno yn y flwyddyn honno.[5]

Yn 1861, roedd y fferm yn 133 erw, ac roedd Owen Roberts erbyn hynny'n 40 oed ac yn cyflogi dau was fferm yn ogystal âmorwyn yn y tŷ. Dyn lleol o'r plwyf ydoedd, fel ei wraig Jane. Erbyn 1871 roedd Owen Roberts wedi symud ymlaen i ffermio Bronmiod gerllaw, fferm oedd rywfaint yn fwy, ac yr oedd tenant newydd yn Llethr Ddu, sef Cathrin Owen, wraig weddw 60 oed, yn wreiddiol o Lanarmon; roedd ganddi ddau was i redeg y fferm oedd â 115 erw. Ddeng mlyedd yn ddiweddarach, roedd y denantiaeth wedi newid eto, gyda gŵr o blwyf Llanystumdwy, sef Morris Griffith, 45 oed, yn ffermio yno. Erbyn 1891, roedd Morris wedi marw ond roedd ei weddw Margaret Griffith, 48 oed yn dal i ffermio yno ac yr oedd hi'n dal yno o hyd ym 1901 a 1911.[6]

Mae olion hen derasau amaethu sy'n mynd yn ôl i gyfnod olion y grŵp o hen gytiau crynion gerllaw'r fferm.[7] sy'n tueddu i ddangos fod y safle'n hen iawn fel tir amaethu ac efallai'n tystio i bwysigrwydd Llethr Ddu yn yr Oesoedd Canol.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.135
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/16997
  3. Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/6426
  5. Archifdy Caernarfon, XM/7744/2/10
  6. Cyfrifiadau plwyf Llanaelhaearn, 1861-1911
  7. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.103