Llanwnda (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Cyn ffurfioli ffiniau plwyfi yn y 15-17g., roedd Uwchgwyrfai wedi ei rannu'n nifer o "drefi" neu drefgorddau, ac un o'r rhain oedd Llanwnda. nid ddylid, serch hynny, cymysgu ffiniau trefgordd LLanwnda efo'r plwyf diweddarach, gan fod y plwyf yn helaethach o lawer. Roedd trefgordd Llanwnda yn weddol fach, yn fras o gwmpas ardal yr eglwys ei hun, gyda threfgordd Bodellog i'r gogledd a therfgorddi Rhedynog Felen a Dinlle i'r de a'r dwyrain.

Yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n gorfod talu gwrogaeth ac ardrethi i'r arglwydd lleol (sef y Tywysog), neu os oedd yr arglwydd wedi dewis trosglwyddo ei hawliau ar yr ardal, i'r sawl (abaty fel arfer) a oedd yn cael y budd o'r trosglwyddiant. Yn achos trefgordd Llanwnda, fodd bynnag, roedd yr esgob ym Mangor yn arglwydd arni ac yn derbyn pob budd a thaliad. Nis enwir Llanwnda yn Stent Uwchgwyrfai 1352, ond fe gynhwysir yn y gyfrol argraffedig, Record of Caernarvon,[1] stent ychydig yn gynharach (o 1335 yn ôl pob tebyg) o diroedd yr Esgob, ac yn y fan honno ceir manylion am dirdaliadaeth trefgordd Llanwnda. Ceir rhai manylion am yr incwm a geid o drefgorddi ym meddiant yr esgobaeth, yn cynnwys Llanwnda, mewn stent o eiddo bydol yr esgobaeth adeg farwolaeth yr Esgob John Swaffham ym 1398; mae'r stent hwn hefyd wedi ei argraffu yn y Record of Caernarvon.[2]

Cyfieithiad o Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor, 1335[golygu]

D.S. Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Ladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Cyfieithiad rhydd sydd ar gael yma. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiynau Lladin gwreiddiol lle bo'n ymarferol.

Ni cheir isod ond y rhan o Stent 1335 sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai, sef trefgordd Llanwnda.

Cantref Arfon
 Stent o Gwmwd Arfon a wnaed yn Llanbeblig ddydd Iau bymtheg diwrnod wedi [Gŵyl] Sant Mihangel yn chweched blwyddyn teyrnasiad tywysogaethol y Tywysog Edward. [1335] 
....
LLANWNDA
Mae Goronw’r caplan, Einion ei frawd, Cyfnerth eu brawd, Adaf ap Madog, Madog ei frawd, Gwion ap Cyfnerth, Madog ap Adaf, Gwenllian ferch Gwion, Dafydd ap Cyfnerth, Cyfnerth ei frawd, Llywarch ap Einion, Madog ap Iocyn, Adda ap Cyfnerth, Madog ei frawd, Cyfnerth ap Cad’, a Madog ap Cyfnerth yn dal 18 preswylfa a 12 bufedd o dir rhydd. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c.
Mae Gwyn ap Heilin, Goronw ei frawd, Heilin ap Heilin, Cyfnerth ap Einion, Ieuan ei frawd, Goronw ap Iocyn, Goronw ap Madog, Madog ap Cynwrig a Iorwerth ei frawd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].[3]
Mae Heilin ap Ieuan, Philip ap Iocyn, Cad’ ei frawd, Ieuan eu brawd, Ieuan ap Tegwared, Iorwerth ap Dafydd ac Ieuan ap Dafydd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod. [sic].
Mae Goronw Fychan, Madog ap Iorwerth, Madog ap Cynddelw, Madog ap Goronw, Adda ap Goronw ei frawd, Mabli ferch Cad’, Efa ei chwaer, Elen ferch Madog, Hag’ ei chwaer, Ieuan ap Philip, Einion ap Madog, Dafydd Rwth, Iocyn ei frawd, Goronw ap Adda, Tegwared ap Meurig, Ieuan ap Madog [?]o’r un gwely[4] yn dal 17 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn, Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Philip ap Cwellyn yn dal un breswylfa a 12 bufedd o dir. Ac mae o’n cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl yr Apostolion Philip ac Iago. Ac adeg yr un ŵyl, 1c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Cyfanswm 23s.3c., un rhan ar gyfer tymor yr Holl Saint [sef] 13s. 4c., ac ar gyfer tymor yr Apostolion Philip ac Iago, 9s. 11c.
....
RHAI Y RHODDWYD TENANTIAETH IDDYNT (Tenantiaid Adfowri).
‘’’’
Yn nhrefgordd Llanwnda, y mae 11 tenant sydd wedi cael tenantiaeth trwy adfowri [sef nid trwy etifeddiaeth]. Ac maent yn cyflwyno 22c. adeg Gŵyl yr Holl Saint.


Cyfieithiad o Stent Eiddo Bydol Esgobaeth Bangor, 1398[golygu]

D.S. Cyfeithiad o rannau perthnasol yn unig o'r stent sydd yma, ac mae'n gyfieithiad rhydd. Gweler y nodyn uchod am gyngor ynglŷn â'i defnyddio mewn cyd-destun academaidd.[5]

Cyfrif y Meistr David Daron, Deon Eglwys Gadeiriol Bangor a’i Siapter o feddiannau lleyg[6] Esgobaeth Bangor mewn amryw o libartiau a roddwyd yng ngofal y deon hwnnw gan siartr yr Arglwydd Rhisiart Brenin Lloegr ac a gadarnhawyd gan y Brenin ei hun pan roddodd yr un Arglwydd Frenin i’r un Deon a Siapter warchodaeth dros feddiannau lleyg yr esgobaeth uchod cyhyd ag y bydd yr Esgobyddiaeth uchod barhau’n wag gan gyflwyno i’r Brenin a’i etifeddion ystent o’r feddiannau lleyg uchod os yw’n aros yn wag am un flwyddyn gron, ynghyd ag 20 marc yn unol â’r ystent, ac os yw’n wag am lai o amser, llai [o daliad], a phan fydd y cyfnod yn fwy na’r hyn sydd yn yr ystent honno, a’r 20 marc dywededig yn ddiogel gyda’r Arglwydd Frenin a’i etifeddion. [Rhoddwyd] ffi marchog a hawliau enwebu eglwysig fel sydd yn gynwysedig yn y Siartr uchod o Gadarnhad oddi wrth y Brenin, sydd yn gyfran o’r ystent, y meddiannau lleyg a’r 20 marc dywededig ar adeg Gŵyl Genedigaeth Sant Ioan y Bedyddiwr sydd yn digwydd ar 24 Mehefin yn 22ain flwyddyn teyrnasiad Rhisiart yr Ail [1397], pryd fu farw John Swapham, Esgob diwethaf y man a enwyd. Yr oedd y meddiannau lleyg yn llaw’r Arglwydd hyd at 19 Mai yr un flwyddyn a hynny am dri chwarter blwyddyn, 7 wythnos a 6 diwrnod. Cyn hynny roedd y Deon a’r Siapter wedi gollwng Rhisiart Yonge,[7] offeiriad, yn rhydd o gyfrifoldeb am y meddiannau lleyg a oedd yn nwylo ffermwyr trethi neu ddeiliaid y meddiannau lleyg yn unol â gwrit yr Arglwydd Frenin dyddiedig 19 Mai o’r un 22ain flwyddyn [1398][8] a gafodd ei gofrestru’n syth yn Nhrysorlys Caernarfon yn yr un 22ain flwyddyn.

....

Dilynir y cyflwyniad uchod gan fanylion am yr ardaloedd a chymydau canlynol: Maenor a dinas neu fwrdeistref Bangor; Maenolbangor (yn fras, Pentir a’r Faenol mewn termau modern); ac Arfon (gweler isod);

Yma fe geir cyfieithiad o’r unig fan yn Uwchgwyrfai oedd yn gynwysedig, sef Llanwnda.

Arfon, ym mha gantref y ceir Llanfaglan, Llanwnda, Castellmai a Ryddallt:
....Ac o’r 11s. 7½c. sef hanner y 23s. 3c. o rent a aseswyd yn nhrefgordd Llanwnda [i’w dalu] adeg Gŵyl yr Apostolion Philip a Siâms o fewn yr amser a gyfrifwyd yn unol â’r ystent ddywededig, a’r hanner arall perthynol i Siapter [Bangor] yr un modd. Ac o’r 11c. sef hanner y 22c. o’r un adfowri[9] adeg Gŵyl yr Holl Saint o fewn yr amser a gyfrifwyd yn unol â’r ystent ddywededig, a’r hanner arall perthynol i Siapter [Bangor] yr un modd....

Wedyn ceir manylion rhenti ac adfowrïon Maenor Edern; Llŷn; Eifionydd; Maenor a thref Treffos; nifer o gymydau eraill ym Môn; Maenor Gogarth a mannau cyfagos; cymydau Meirionnydd; ac Arwystli ym Mhowys.



Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

{{cyfeiriadau}]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.95-7
  2. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), t.332.
  3. Nid yw manylion y dyletswydau ac ardrethi hyn i'w gwely yn uwch i fyny yn y ddogfen wreiddiol. Mae'n bosibl felly fod y ddogfen sydd wedi goroesi heb gynnwys yr holl fanylion.
  4. " De vno lecto " yn y Ladin wreiddiol. Mae lectus = gwely, sef "bed" yn Saesneg a dichon mai dyna ymdrech y clercod i gyfieithu'r gair gwely, sef enw tir dan denantiaieth etifeddol
  5. Cyfieithiad “Record of Caernarvon” tt.231-2 (rhan)
  6. Temperalium neu temporalities yn Saesneg, h.y. eiddo ac imcwm o ffynonellau y tu allan i’r eglwys a’i ffioedd.
  7. Yr esgob a olynodd Esgob Swapham
  8. Daeth Rhisiart II i’r orsedd 22 Mehefin 1377, ac felly ei flwyddyn deyrnasu ef yn rhedeg o 22 Mehefin mewn un flwyddyn hyd 21 Mehefin y flwyddyn wedyn. Dyna pam fod y ddau ddyddiad 22 Mehefin1377 a 19 Mai 1398 yn cael eu nodi fel dyddiadau yn ystod yr un flwyddyn; h.y. blwyddyn deyrnasu ac nid blwyddyn galendr a ddefnyddid.
  9. Adfowri = man lle ceir yr hawl i benodi offeiriad