Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tanr'allt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle.

Ffiniau a thirwedd[golygu]

Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog Fawr i'r gorllewin a'r de. Mae afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau a Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Cwm Dulyn. Mae llawer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwnaed tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant[golygu]

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei Gŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Mae Eglwys Rhedyw Llanllyfni yn nodedig yn y cyfnod presennol am ei bod yn parhau i gynnal Gwasanaeth Plygain ar fore dydd Nadolig, gan gychwyn am 7 o'r gloch.

Tai pwysig ac enwogion[golygu]

Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twisleton a briododd ferch oedd yn perthyn i deulu Glynn.

Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd/y mae:

Y pentref[golygu]

Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a swyddfa'r post, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond Capel Ebeneser (B). Ar un adeg, bu crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandimanaidd (enwad bach Albanaidd) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.

Dyma ddyfyniad o hanes Llanllyfni yng nghyfnod plentyndod Ellen Evans a aned yng Nghae Du Isaf ar Hydref 13 1888:

"Yr oedd Llanllyfni yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai'r goits fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon; yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o'r enw Penbryn Moch; Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Nid oedd son am fynwent Macpela, Pen-y-groes na mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni yn fy ieuenctid i ac yn Llanllyfni y cleddid trigolion y pentrefi cyfagos. Yno y claddwyd John Jones Tal-y-sarn, ac o ystyried nifer y bobl a ddaeth i'w gynhebrwng nid yw'n syndod y dywedir iddo ymestyn yr holl ffordd o Dal-y-sarn i Lanllyfni....."

"Yr oedd Llanllyfni hefyd yn ganolfan siopa bwysig a dyma'r siopau a oedd yno yn fy mhlentynod i: Siop Uchaf, Siop Liverpool House a Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (fe gododd dy ar Lon Coecia yn ddiweddarach ac fe'i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd (hen lanc oedd ef ar roedd ei frawd yn gigydd ym Mhen-y-groes). Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai clocsiwr yn un o'r tai.

"Cofiaf bum ty tafarn yn y pentref, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen's Arms, King's Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd)."

Addysg[golygu]

Dyma ddyfyniad o Lyfr Log yr ysgol a gofnodwyd gan Howell Roberts (Hywel Tudur), yr ysgolfeistr :

Dec. 20th 1872: "...the past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the standards below Standard 3. From the playground also in Standards 3 and 4 and from the road leading to the playground as well in Standards 5 and 6." [1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Allan o Hywel Tudur 1840-1922 Bardd, Pregethwr, Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws (Gwasg Pantycelyn,1993) tt23-5