Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Ffermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd[golygu]

Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog Fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.

Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant[golygu]

Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Aelhaearn Sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.

Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.

Tai pwysig ac enwogion[golygu]

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.

Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:

Llundain.

Y pentref[golygu]

Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.

Nodweddion eraill y plwyf[golygu]

Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.

Hanes diweddar[golygu]

Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.

Cyfeiriadau[golygu]

Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018