Llain Fadyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Bwthyn bach a safai ar gyrion deheuol pentref Rhos-isaf oedd Llain Fadyn. Dyddiai'n ôl i 'r flwyddyn 1735, ac mae bellach wedi ei adleoli i Amgueddfa Hanes Cymru, Sain Ffagan, lle mae wedi cael ei ail-godi garreg wrth garreg, ym 1962.

Ym 2004 ysgrifennai'r diweddar Parch. John H Hughes atgofion am yr hen dŷ[1]:

"Fe gofiaf Llainfadyn yn dda. Bwthyn ger fy nghartref yn Rhostryfan ydoedd. Hen fwthyn traddodiadol Cymreig, wedi ei adeiladu a cherrig mawrion a gloddiwyd yn y caeau gerllaw iddo.
"Yn gyntaf a gawn ni sylw ar enw'r hen fwthyn? Enw ar ddarn o dir yw llain, ac mae’n sicr mai ar lain yr adeiladwyd y bwthyn, darn bychan neu ran o gae. Madyn yw hen enw Cymraeg ar lwynog, ac fe gawn yr enw hwn ar hen fythynod a ffermydd. Gerllaw i Lainfadyn y saif tyddyn bychan o'r enw Tyddyn Madyn. Yna, yn ardal Pentir ger Bangor, fe gawn fferm o'r enw Tyddyn Badin. Mae'n siŵr y ceir yr enw madyn neu badin mewn llawer i ardal yng Nghymru.
"Pan oeddwn yn blentyn fe drigai teulu yn y bwthyn, sef Joni a Mrs. Hughes a'u pedwar plenty, sef John Arfon, Katie, Richard Alun, ac Elfed. Bu farw John Arfon flynyddoedd yn ôl, ond y mae y tri plentyn arall yn dal yn fyw. Gyda llaw, Richard Alun aeth â mi yn ei law i’r ysgol am y tro cyntaf.
"Bum oddi mewn i’r hen fwthyn lawer i dro a saif darlun ohono yn fyw yn fy meddwl o hyd. 'Roedd cegin helaeth a simdde fawr gadarn ynddo, dwy siambr a thaflod. Oddi allan, gyferbyn â’r bwthyn yr oedd y tŷ llaeth. Da i'r teulu oedd cael yr adeilad hwn at eu galwad. Yna ger y tŷ llaeth yr oedd pistyll. Dyma y cyflenwad dŵr hyd nes y rhoddwyd pibell ymhen y ffordd. Yna ceid dŵr cyhoeddus o'r Ffynnon Wen sef cronfa a welir hyd heddiw ar y ffordd o Rhos Isa' i Gapel y Bryn.
"Byddai Joni Hughes yn gwyngalchu oddi allan i'r bwthyn yn flynyddol. Byddai yn defnyddio calch wedi ei gymysgu a dŵr, yna fe roddai tipyn o liw glas yn cymysgiad; hwn fyddai yn rhoi y gwyn claer i wyneb y bwthyn. Yr oedd muriau Llainfadyn fel yr od bob amser, yn sefyll allan yn yr ardal.
"Fe briododd y plant a bu'n rhaid i Mr a Mrs Hughes symud o'r hen fwthyn gan fod ei do yn beryglus. Treuliasant weddill o'u dyddiau mewn bwthyn bach arall o'r enw Llwyn Brain, hwn hefyd yn Rhos Isa'.
"Mrs. Kate Williams, Trem Arfon oedd perchennog y bwthyn. Gwraig agos iawn i’w lle oedd hi,wedi byw yn yr ardal drwy ei hoes. Rhoddodd y bwthyn yn rhodd i Amgueddfa Gwerin Cymru yn Sain Ffagan. Fe aed â'r bwthyn fesul carreg i' r amgueddfa a'i ail godi yn ofalus. Yno y mae yn dystiolaeth o werin Gymreig y dyddiau a fu.
"Gyda llaw tra yn tynnu yr hen simdde fawr i lawr, darganfyddwyd y dyddiad 1735 wedi ei gerfio i un o'r distiau derw.

Mae John H. Hughes yn gywir wrth ddeud fod madyn yn air arall am lwynog; ond mae Dr Glenda Carr yn awgrymu mai enw bychanyn yn lle Madog yw Madyn. Mae Tyddyn Madyn gerllaw, a digon naturiol fyddai i'r Madog neu Madyn hwnnw fod allain o dir hefyd.[2]

Erbyn hyn, mae tŷ modern wedi codi lle safai, ond erys yr hen enw arno.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ysgrif fer lawysgrif mewn dwylo preifat
  2. Clenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), tt.248-9.