Lladd-dai yn Nhrefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Bu dau ladd-dy yn Nhrefor ar wahanol adegau yn y gorffennol.

Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif bu gan Owen Evans (bu farw 1930) fusnes cigydd yn y pentref. Un o Gurn Goch oedd Owen Evans yn enedigol, gyda'i dad Robert Evans yn cadw tafarn y Sportsman yno tua diwedd y 1850au a dechrau'r 1860au. Priododd Owen Evans â Saesnes o'r enw Elizabeth Luckett, a fagwyd ym mhentref Hook Norton ger Banbury yn Sir Rhydychen. Yn ôl y sôn daeth hi i Glynnog fel yr hyn a elwid bryd hynny yn companion i wraig rheithor Clynnog. Wedi i Owen a hithau briodi fe wnaethant gartrefu yn Nhrefor weddill eu hoes a magu saith o blant. Roeddent yn byw yn Hendy ar waelod Ffordd yr Eifl ger y bont, ac ychydig lathenni i ffwrdd, ar lan yr Afon Bach, fel y'i gelwir, bu gan Owen Evans ladd-dy bychan am rai blynyddoedd. Roedd yr adeilad ar dir tyddyn Bryn Gwenith (neu Dyddyn y Felin fel roedd yn cael ei alw'n wreiddiol) a oedd yn cael ei ddal a'i ffermio gan Owen ar y pryd. Adeilad bach a thywyll ydyw ac mae'n anodd credu iddo erioed drin gwartheg yno. Mae'n debyg mai wyn, defaid a moch oedd yr unig anifeiliaid a fyddai'n cael eu bwtsiera yno. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr gweddol dda. Wedi ei ddyddiau fel lladd-dy fe'i defnyddiwyd fel sied i gadw amryfal bethau.

Roedd yr ail ladd-dy yn Nhrefor yn adeilad tipyn mwy a diweddarach nag un Owen Evans. Fe godwyd hwn hefyd ar dir Bryn Gwenith a hynny gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn Nhrefor a'i changhennau yn y pentrefi cyfagos. Roedd hwn yn adeilad helaeth o frics ac wedi'i blastro. Roedd wedi ei rannu'n wahanol "ystafelloedd". Yn un roedd peniau cadarn i gadw anifeiliaid dros nos cyn iddynt gael eu lladd. Yn y rhan arall helaethach roedd boiler i ferwi dŵr a bachau yn dod i lawr o'r nenfwd i hongian y cig. Fodd bynnag, er i'r Gymdeithas wario'n helaeth ar yr adeilad hwn ni fu fawr o fri a defnydd arno. Erbyn y 1950au a'r 60au roedd yn fwy ymarferol i gael cig wedi ei ddanfon o ladd-dai mwy o fannau fel Caernarfon a gadawyd y lladd-dy i ddirywio.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth bersonol.