Lôn Eifion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Lôn Eifion ger y Groeslon

Mae Lôn Eifion yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae hi'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 8, rhwng Bangor a Chaerdydd.

Trwy Uwchgwyrfai o un pen i'r llall mae Lôn Eifion yn dilyn llwybr hen reilfordd o Gaernarfon i Afon Wen. Wedi i'r lein gau a chael ei chodi ym 1967, arhosai gwely'r lein fel yr oedd gyda cerrig mawr balast drosti nes i ddefnydd newydd ymddangos pan oedd Pwerdy Dinorwig yn cael ei adeiladu. Roedd angen tunelli dirifedi o raean a thywod ar gyfer y gwaith, a chafwyd hyd i'r rhain yn ardal Pant-glas yng Nghefn Graeanog ac agorwyd chwarel yno. Gan fod hyn yn berygl o greu traffig trwm ar ffyrdd troellog y cyfnod cyn agor ffordd osgoi Pen-y-groes, gosodwyd lôn breifat ag arwyneb tarmac ar hyd gwely'r rheilffordd o Groesfan Graeanog i Lanwnda. Wedi i waith Dinorwig ddod i ben, trowyd y darn tarmac yn lôn seiclo - er i'r lôn ddal i gael ei hadnabod yn lleol fel y 'lôn loris'.

Maes o law, estynnodd y Cyngor Sir yr wyneb caled ar yr hen drac belled â Bryncir i'r de a hyd at Gei Caernarfon i'r gogledd.