Kate Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985). Cyfeirir ati'n aml fel "Brenhines ein Llên".

Ganwyd yng Nghae'r Gors, Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Caernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera,(1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28).

Mae’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael â phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn yr 20g. Priododd â Morris T. Williams ym 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw Traed mewn Cyffion, Y Byw sy’n Cysgu a Tegwch y Bore. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o storïau byrion hefyd megis Te yn y Grug, O Gors y Bryniau a Ffair Gaeaf. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lôn Wen’ ym 1960.[1] Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1950, a derbyniodd Fedal y Cymmrodorion ym 1961. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn nhref Dinbych. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.[2] Roedd Kate Roberts hefyd yn genedlaetholwr Cymreig.[3].

"Cae'r Gors", Rhosgadfan.

Cyflwynodd ei hen gartref, a oedd wedi mynd i gyflwr sâl, i'r genedl. Trowyd yr adeilad yn "furddun rheoledig", gan dynnu ei do, plaster mewnol a choediach. Yn ddiweddarach, cafwyd grantiau ac, yn dilyn ymdrech leol a arweiniwyd gan (ymysg eraill), Guto Roberts, yr actor a Dewi Tomos, hanesydd lleol y pentref, fe adferwyd y tŷ i'w hen gyflwr ac ychwanegwyd ystafell ddarlithio, gan ei agor i'r cyhoedd. Gan nad oedd agor rheolaidd yn llwyddiant, rhoddwyd rheolaeth y lle yn nwylo CADW, a gellir ymweld â'r safle trwy drefnu ymlaen llaw.[4]


Cyfeiriadau[golygu]