John Rowlands (Hassan)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o Drefor oedd John Rowlands, ond yn frodor o Lanfairfechan. Daeth i weithio fel setsmon yn Chwarel yr Eifl yn 17 oed tua 1853.

Ym 1855 priododd â Jane Williams, merch Nant y Cwm, un o'r nifer dda o fân dyddynnod ar lethrau gogleddol Yr Eifl. Gwnaeth y pâr ifanc eu cartref cyntaf yn Uwchfoty, sef yr uchaf un o'r tyddynnod hyn, ar waelod Bwlch yr Eifl.

Ganwyd iddynt saith o blant, a daeth un ohonynt, Rowland Rowlands, yn Is-oruchwyliwr y chwarel. Mab arall iddynt oedd John Rowlands, Gwydir Mawr.

Fel bardd, galwodd John Rowlands ei hun yn Hassan. Pam Hassan, tybed? 'Does neb â ŵyr. Roedd hefyd yn ŵr blaenllaw gyda'r achos ym Maesyneuadd gan gymryd diddordeb neilltuol yng nghyfarfodydd y plant.

Priododd ei chwaer Jane ag un o'r mewnfudwyr Seisnig o chwarelwyr ddaeth i Drefor o Swydd Gaerlŷr, Joseph Antill, ddiwrnod cyn y Nadolig 1877, a bu eu hwyres, Florence M. Antill, yn athrawes yn ysgol Trefor am oddeutu hanner can mlynedd.

Arferai Hassan anfon ambell un o'i gynhyrchion barddonol i'r Herald Cymraeg e.e. Angharad Llwyd (cerdd hir o 17 pennill wyth llinell) ; hefyd Hen Lanc o Brydydd.

Dyma un o'i gerddi :


EI LLYGAID A WENENT


Ei llygaid a wenent wrth weled y blodau

Oddiar emrynt y bore yn yfed y gwlith ;

Ei theimlad fywiogid tra yn y llwyd olau,

Y plethai goronau dillynaidd o'u plith ;

Yr haul pan gyfododd a wywodd y llawryf,

Blethasid mor ddestlus gan ddwylaw y fun,

Tra syllai'n fyfyriol ar wywder y sypyn,

Y wyryf sisialai, "Mor debyg yw dyn".


Ei llygaid a wenent mewn distaw edmygedd,

Tra yn ei hunigedd y rhodiai y ddôl ;

Gan edrych i fyny at leuad arianwedd,

Yn gwasgu pruddglwyfedd ym mhob rhan o'i hôl.

Ei chalon doredig fwynhai yr olygfa,

Gaid yma yn symlder hoff Anian ei hun,

A theimlai y rian fod iddi orffwysdra,

Tra yma o gyrraedd chwilfrydedd pob dyn.


Ei llygaid a wenent er cuddio y gofid

Orchuddiai fel dulid ei chalon a'i hedd ;

Ei thyner serchiadau gan obaith a wawdid,

Awgrymid y priddid ei phoen yn y bedd.

"Fy Edwin, fy Edwin, O na chawn dy weled

Yn dyfod i'r deildy mor llon ar dy hynt ;

Ond na ! mae anobaith yn sibrwd fy nhynged

Na chaf i byth gwrdd â'r un gerais i gynt".