John Roberts, Ysgol Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Bu tri John Roberts yn ysgolfeistri yn Llanaelhaearn. Hwn yw yr ail un. Un o'i amlycaf ddoniau oedd llunio penillion ar gyfer rhyw amgylchiadau neu'i gilydd.

Ei gerdd fwyaf adnabyddus yw ei gerdd hir o 16 o benillion wyth llinell sy'n disgrifio'n fanwl yr olygfa odidog a geir (ar ddiwrnod clir) i bob cyfeiriad o'r hen gaer Frythonig sydd ar ben Mynydd Ceiri, y mwyaf dwyreiniol o driban Yr Eifl. Bu'r gerdd yn fuddugol mewn eisteddfod ac fe'i cyflwynir "I Ymwelwyr â Thre Ceiri, Llanaelhaiarn". Argraffwyd y gerdd fel pamffledyn gan Richard Jones, yr argraffydd o Bwllheli, a'i gwerthu am chwe cheiniog.

Dyma rai penillion o'r gerdd (penillion 1, 6, 14 a 15).


CÂN FUDDUGOL

YR OLYGFA O BEN Y CEIRI

GAN J.ROBERTS, C.M., LLANAELHAIARN


I gopa y Ceiri cyrhaeddais

Mewn lludded ar desog ddydd haf,

Ond buan ces brofi llawenydd

Mewn awyr iach, dyner, yn braf :

Tra'n syllu mewn syndod o'm cwmpas

Yn f'ysbryd yr Awen ymeifl,

A'm llygaid yn llawn o edmygedd

Sy'n canfod prydferthion yr Eifl.


Y Moelwyn, Moel Gest, a Moel Hebog,

Ynt oll a'u copâu yn glir ;

A dacw y Gaer a Moel Bentyrch

Yn amlwg yn nghanol y tir :

Mae Moelydd Llechgaran a Charnguwch

I'w canfod wrth edrych i lawr ;

A mynydd y Rhiw, a Charn Fadryn

Ganfyddir yn Lleyn fel dau gawr.


Nawr chwarel yr Eifl sydd yn ymyl,

A Threfor yn deg wrth ei throed,

A gwelir Llandwrog a'r Ddinas,

A phalas Glynllifon a'r coed ;

Ardaloedd Pen'groes a Rhostryfan,

A chwarel y Cilgwyn sydd draw,

Tra'r Fenai a'i phontydd ardderchog

Wnânt Arfon a Môn ysgwyd llaw.


Gwastadedd Sir Fôn o Gaergybi

I lannau y Fenai sydd glir,

A chreigiau'r Eryri ddyrchafant

Eu pennau yn uwch na'r un Sir :

Caernarfon henafol a'i chastell,

Sydd acw yn enwog ei bri,

Ac yma mae Clynnog iachusol

Yn llawn o henafion i ni.