John Jones (Sion Caeronwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Er bod John Jones, neu Sion Caeronwy, bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau Mynydd Mawr ym mhlwyf Llandwrog.

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri i gyfarfod ym Metws Garmon er mwyn sefydlu trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.[1] Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, yn arbennig cyfansoddi cerddi dychan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, dywedir nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, Corff y Gainc, a gyhoeddwyd tua 1810.

Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn Y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.

Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r rhent godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn Gastell Caeronwy ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn a oedd gerllaw.[2]

=Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2