John Jones, Rhiwfallen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Bardd gwlad ac athro oedd John Jones, Rhiwfallen (fl.1870??-1790). Mae’n debyg nad oedd yn frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o Ffrwd Ysgyfarnog, lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen y magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.

Mae W. Gilbert Williams, ei gofiannydd, yn amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Mae Dewi Jones yn tueddu i feddwl mai o ardal Henllan yn Sir Ddinbych y symudodd John Jones i Arfon. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, priododd ag Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf, ym 1773. Adlewyrchir ei ymddygiad gwyllt yn ddyn ifanc yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.

Erbyn 1780 roedd ef a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog, a nodir fod John yn athro ysgol. Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.

Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol. Erbyn 1787, roedd dyn o Garno o'r enw David Wilson yn athro ysgol yn y Ffrwd, ac arhosodd yno tan 1789.[1] Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno - er tybed a oedd o wedi rhoi'r gorau i fod yn athro erbyn hynny, neu efallai'n cynnal ysgol mewn man arall yn yr ardal.

Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:

Cadw dy dafod rhag siarad fo gormod,
A dilyn gydwybod heb drallod na drwg;
A  gochel di gellwer ag afieth fo ofer,
Gwag bleser, fe’i gweler drwy gilwg.
Cofia dy ddiwedd, ymro i fyw’n santedd,
Ymâd â’th lygredd sydd ffiedd a ffôl;
Os pechod galyni, cosb drom a ddaw iti,
Ti weli na ddengi’n ddiangol.

Fel y mae ei gofiannydd yn nodi, mae tafodiaith John Jones yn dangos nad dyn o Arfon ydoedd yn wreiddiol.[2] Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn Cymru Mawrth 1905.[3]

Ceir mwy o ddyfyniadau ac ymdriniaeth fer, ond campus, o'i waith gan Dewi Jones, sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i'w canu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen... yn destlus tu hwnt."[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler yr erthygl am David Wilson yn y Cof am fanylion pellach.
  2. W. Gilbert Williams. “John Jones”, Y Llenor, Cyf. 17 (!938), tt.106-11
  3. W. Gilbert Williams, “John Jones”,Cymru, Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [1]
  4. Dewi Jones, Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon (Llanrwst, 1998), tt. 53-9