John Hughes Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Fel Johnny Miss yr adnabyddid John Hughes Evans, bandfeistr Seindorf Dyffryn Nantlle, oedd hefyd yn un o brif gornedwyr y seindorf. Roedd yn chwaraewr penigamp ac yn gerddor ac arweinydd pur fedrus.

Ganol y 1920'au roedd Seindorf Dyffryn Nantlle yn fand o fri ac yn cystadlu yn erbyn goreuon holl wledydd Prydain yn y British Open Contest yn Belle Vue, Manceinion. Roedd llogi hyfforddwr proffesiynol o Loegr yn draul enfawr a'r arfer oedd casglu arian yn holl bentrefi'r Dyffryn a thu hwnt. Un gyda'r nos aeth y band i bentref Baladeulyn i hel ac aeth y bandfeistr, Johnny Miss, ar eu holau ar gefn ei feic, ar hyd yr hen ffordd fel yr oedd bryd hynny. Ond ni chyrhaeddodd Faladeulyn. Cafodd ddamwain angheuol ar Allt Pen-y-bryn, a thrwm oedd galar y band a'r Dyffryn cyfan.

Yn groes i'r arfer, fe'i claddwyd ar ddydd Sul ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes, ynghanol galar rhyfeddol. Roedd y dyrfa ddaeth yno y fwyaf a welwyd yn Nyffryn Nantlle ers angladd y pregethwr mawr, John Jones, Tal-y-sarn yn Llanllyfni, Awst 1857.

Roedd Johnny Miss wedi cyfansoddi tôn er cof am aelodau o'r band a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, ac fe chwaraeodd Seindorf Nantlle'r dôn honno o flaen ei dŷ dan arweiniad Ben Jones, cyn-arweinydd y band. Er Cof oedd enw'r dôn. Yna arweiniwyd yr elorymdaith gan y band yn chwarae'r Dead March gyda'r cannoedd yn dilyn i'r fynwent. Yno, i gyfeiliant y band, canwyd emyn David Charles, O fryniau Caersalem, ar yr hen dôn Crug-y-bar, ac yna'r Last Post a'r Ymdeithgan Angladdol cyn ymadael.[1]

Dyma englyn a gyfansoddwyd er cof am Johnny Miss gan un o brifeirdd Dyffryn Nantlle, Gwilym R. Jones, Tal-y-sarn :

Ei fyr glod, ei fore glân, - a'i dirf hoen

A derfynodd weithian ;

Gorwedd mae yn y graean,

Heb sŵn y cyrn, heb sain cân.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (2004), t.112