John Roberts (Iolo Glan Twrog)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Iolo Glan Twrog)
Jump to navigation Jump to search

Ganed John William Roberts (1858-1920<) yn y Tai Newyddion, Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda, yn fab i William Roberts (g.1838) a hanai o Lanengan yn Llŷn, a’i wraig Jane, (g.1835 ym Motwnnog). John oedd y plentyn hynaf ond, yn y man, cafwyd nifer o blant eraill: Robert William (g.1860); Jane (g.1861); William William (g.1863); Hugh William (g.1865); a Richard William (g.1867).

Fe ymddengys i William Roberts symud gyda’i wraig a John William o Lanfihangel Bachellaeth i’r Dolydd i gael gwaith fel gwas ffarm.[1] Rywbryd tua 1868, mae’n debyg, symudodd y teulu a oedd, erbyn hynny, angen tŷ mwy – ac, mae’n debyg – cyflog gwell, i 7 Rhes Eryri, yn ardal Y Fron, Llandwrog. Erbyn 1871, roedd y tad yn gweithio fel labrwr yn y chwarel leol.

Erbyn 1881, roedd John W. Roberts wedi priodi ag Elizabeth, ac yr oedd ganddynt ddau blentyn, Phyllis M. (g.1888); ac Edward J. (g.1890). Gwasanaethodd Edward yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gael ei gomisiynu'n swyddog,[2] ar ôl ennill gradd brifysgol. Cartref y teulu oedd 1 Rhes Pen-yr-orsedd ym mhentref Nantlle. Bu farw Elizabeth rywbryd rhwng 1891 a 1901, pan ddisgrifiwyd John W. Roberts fel gŵr gweddw. Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd wedi ailbriodi â dynes o’r enw Catherine o Heneglwys, Môn, a oedd saith mlynedd yn iau nag ef.[3] Gydol yr amser hwn roedd wedi bod yn gweithio fel chwarelwr yng nghwarel Pen-yr-orsedd, ac yr oedd yn ddigon amlwg i gael ei ddewis ym 1915 yn un o ddau chwarelwr i gynrychioli’r chwarelwyr yn angladd Mrs Darbishire, gwraig y perchennog.[4] Am gyfnod, ei bartner yn y chwarel oedd William Hughes (Glan Caeron) (1855-1926), nes i hwnnw ymfudo i’r Unol Daleithiau ym 1881, lle daeth yn fardd arobryn.[5]

Cafodd John W. Roberts brofedigaeth fawr ym 1917 pan fu farw ei wraig yn ei chwsg. Roedd hi wedi bod yn cadw Swyddfa’r Post yn Nantlle am nifer o flynyddoedd, cyn marw’n ifanc yn 53 oed. Erbyn hynny, roedd John William a Catherine Roberts wedi symud o Res Pen-yr-orsedd i fferm fach Blaen-y-garth uwchben pentref Nantlle.

Dechreuodd John W. Roberts gymryd diddordeb mewn barddoniaeth yn ifanc, ac yn sicr erbyn y 1870au. Erbyn 1878 (os nad cyn hynny) yr oedd wedi ennill digon o enw iddo’i hun fel bardd i fentro mabwysiadu enw barddol, sef “Iolo Glan Twrog”. Y flwyddyn honno roedd yn un o nifer o feirdd a urddwyd yn aelodau o Orsedd Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn ystod seremoni cyhoeddi'r eisteddfod honno, a gynhaliwyd flwyddyn yn ddiweddarach.[6] Dichon i hynny gynyddu ei amlygrwydd fel bardd, gan iddo dderbyn gwahoddiad i gyflwyno anerchiad barddonol mewn seremoni yng nghapel Cesarea ym 1879. [7]

Ceir cyfeiriadau ato yn y papurau newydd yn ystod y 30 mlynedd canlynol, a hynny fel Iolo Glan Twrog, ond prin oedd ei ragoriaeth fel bardd mewn gwirionedd. Ymysg y darnau cyhoeddedig o’i waith, ni cheir fawr mwy na rhigymau digon syml heb gynnwys treiddgar iddynt. Mewn rhestr o feirdd Dyffryn Nantlle, a osodwyd yn nhrefn eu doniau ac a gyhoeddwyd ym 1888, daeth Iolo Glan Twrog yn ddeunawfed allan o ddeunaw.[8]

Er nad oedd ond yn fardd pur salw, yr oedd yn ddyn defnyddiol a gweithgar yn ei gymuned. Bu’n flaenor ac yn arweinydd y gân yng nghapel Baladeulyn, ac yn barod ei gymwynas mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd megis y cylch llenyddol yn ei gapel.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861
  2. Y Brython, 28.6.1917, t.4
  3. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1871-1911
  4. Y Genedl, 27.7.1915, t.4
  5. Y Genedl, 21.2.1915, t.3; Gwefan Rootschat, [1], cyrchwyd 24.10.2022
  6. Y Genedl Gymreig, 25.4.1878
  7. Y Genedl Gymreig, 24.7.1879, t.6
  8. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7