John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ioan ab Hu Feddyg)
Jump to navigation Jump to search


John Pughe oedd enw bedydd Ioan ab Hu Feddyg (1815-1874). Fe'i ganed yn Ysgubor Fawr, Chwaen Wen, Ynys Môn, yn fab i David Roberts Pughe ac Elizabeth Williams, merch William Owen o'r Chwaen Wen.

Pan oedd yn bedair ar ddeg oed cafodd ei rieni denantiaeth Bachwen, Clynnog Fawr.Yn fuan wedyn fe âi John am wersi at Eben Fardd i’r Ysgol Genedlaethol a gynhelid mewn rhan o’r eglwys a elwir yn Gapel Beuno. Ond fe fuont hefyd yn gyfrwng i gychwyn cyfeillgarwch oes rhwng John Pughe ac Eben Fardd.

Pan oedd tua deunaw oed dechreuodd ei gwrs yn Athrofa Sant Thomas yn Llundain i’w gymhwyso ei hun yn feddyg. Anfonodd gerdd faith oddi yno i’w fam: ‘Hiraeth am Gymru’. Yn ystod ei wyliau o’r athrofa fe ddeuai adref at ei deulu, oedd erbyn hyn wedi symud i Goch-y-Big, am y terfyn â Lleuar Bach, hen gartref ei dad, lle ’roedd ei chwaer Anne, yn parhau i fyw gyda’i phriod, y Capten Lewis Owen o Landecwyn, Meirion.

Fe’i cymhwysodd ei hun yn feddyg ym 1838 a chyfansoddodd Eben Fardd gyfres o englynion i’w gyfarch, yn dechrau:

Ciliwch heddyw y Clochyddion – ni bydd
Angen beddau’n union;
Pughe’r meddyg biau’r moddion —
Gwna hoedl hir i’r genedl hon."

Ym mis Medi 1838 ’roedd John Pughe yn dechrau ar ei waith fel meddyg yn y Bermo. Yn Chwefror 1839 fe briododd yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon, â Catherine Samuel, unig ferch Samuel Samuel, adeiladydd llongau yn y dref.

Ymddengys ei fod yn fuan ar ôl ei briodas wedi bwriadu dychwelyd i ymgartrefu ym mhlwyf Clynnog ac ym 1842 fe gododd dŷ mawr newydd ar un o gaeau Coch-y-Big a’i alw yn Bron Dirion Villa. Ond ym 1844 fe aeth yn feddyg i Aberdyfi, a hynny, o bosibl, oherwydd y clymau teuluol oedd rhyngddo â’r lle drwy ei hen nain Lleuar Bach. Symudodd ei rieni i fyw o Goch-y-Big i Fron Dirion gan gadw peth o dir Coch-y-Big i ganlyn y Villa newydd.

Yn Aberdyfi y mabwysiadodd yr enw Ioan ab Hu Feddyg.

Bu farw Catherine ei wraig ym 1862 ac ar ôl ei ail briodas â Maria symudodd i fyw i Fryn Awel, Aberdyfi. Ym 1853 etholwyd ef yn Gymrawd o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (FRCS).

Bu’n weithgar yn ei ardal – bu’n ustus heddwch, yn ysgrifennydd cangen Meirionnydd o’r ‘‘Cambrian Archaeological Society’’ ac yn cyfrannu erthyglau i gylchgrawn y gymdeithas. Ym 1866 ef oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu arddangosfa ar gyfer cyfarfod cyffredinol y gymdeithas ym Machynlleth. Casglodd amryw o greiriau o blwyf Clynnog i’r arddangosfa honno. Yr oedd yno ddarn o arian bath o gyfnod Elisabeth ganfuwyd yng Nghoch-y-Big, darn o bren cerfiedig o eglwys Beuno Sant, a dwy fwyell bres a ganfuwyd mewn mawnog yn Ynys yr Arch.

Yn Hydref 1850 mewn llythyr at Eben Fardd nodai ei fod wedi dechrau cyfieithu gweithiau Meddygon Myddfai i’r Saesneg. Cyhoeddwyd ei waith gan y Welsh MSS Society. Ystyrid hwn yn waith pwysig.

Rhoddai lawer o’i amser i weithgareddau crefyddol. Yn gynnar yn Aberdyfi ymunodd â sect y Brodyr Plymouth ac adeiladodd gapel iddynt ar dir y teulu. Gan na chredai’r sect honno mewn ordeinio gweinidogion na thalu i undyn am ledaenu’r efengyl, dibynnid ar leygwyr i wasanaethu yn oedfaon y Sul. Oherwydd hynny roedd Dr John Pughe yn pregethu bron bob Sul. Rhan o genhadaeth y Brodyr oedd cynorthwyo’r anghennus a’r amddifad ac addysgu’r difreintiedig. A chenhadaeth felly oedd yn ddiau y tu ôl i’w ymdrechion yn sefydlu Bwrdd Iechyd i ardal Aberdyfi a Thywyn a sicrhau Ysgol Frytanaidd i Dywyn.

Ynghanol ei brysurdeb fe’i trawyd yn wael ar fore’r Groglith 1874 a bu farw ymhen ychydig o ddyddiau. Ni welwyd o’r blaen yn Aberdyfi ddim byd tebyg i ddydd ei angladd. Yr oedd holl weithwyr y dref yn segur, y siopau ynghau a’r llongau yn yr harbwr â’u banerau ar hanner y mast. Ac yna’r tyrfaoedd yn dylifo yno o dde a gogledd i hebrwng Ioan ab Hu Feddyg, 59 oed, i fynwent Maethlon. [1]

Dyma garreg fedd Ioan ab Hu Feddyg o flaen Capel Maethlon, Aberdyfi. Arni mae coffâd amdano ef; ei wraig gyntaf, Catherine; dau o'i feibion, sef Einion Ieuan Rhiwallon a Samuel Jolly StThomas; a dwy o'i ferched, sef Catherine Elizabeth a Buddug Anwylini.[2]


Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Casglwr, Mawrth 1991, Rhifyn 43, tt.10-11 dan y pennawd Mair Eluned Pritchard ar drywydd ab Hu Feddyg ac Anwylini.
  2. Yr oedd llun carreg fedd Ioan ab Hu Feddyg gan Mair Eluned Pritchard yn rhan o arddangofa HEN DAI yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2008. Coch-y-Big oedd yr hen dŷ yn yr achos hwn.