Inclên Chwarel yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Pan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd ar Graig Cae'r Foty ar wyneb gogleddol y mynydd, rhaid oedd cael inclên newydd i gludo'r cerrig i lawr o'r mynydd a draw i'r harbwr i'w llwytho i'r llongau yn y Cei. Hwn oedd yr unig gludiant posibl i gynnyrch y chwarel bryd hynny.

Agorwyd yr Inclên Fawr ar yr 20fed o Fai, 1867. Ers yr Hydref 1866, roedd y chwarel newydd wedi bod yn brysur iawn, ac o ganlyniad roedd stoc anferth o gerrig setiau wedi eu storio ar y gwahanol bonciau gan nad oedd modd eu cludo oddi yno. Y rheswm dros yr oedi hwn oedd bod angen adeiladu pont newydd i gario'r inclên dros y ffordd a arweiniai o Drefor i ffermydd Nant Bach a Sychnant. Bu ffermwr y Sychnant yn bur wrthwynebus am gyfnod, ond cafwyd cytundeb yn y diwedd.

Y drefn a ddefnyddid oedd gollwng pedair gwagen lawn i lawr ar y tro, gyda rhaff-wifrau gref wedi ei bachu yn nhin y wagen olaf. Rhyw hanner ffordd i lawr yr Inclên roedd rhai llathenni gwastad, sef y "Brêc", lle'r arefid y gwagenni cyn eu hailollwng i weddill eu taith. Roedd pen arall y rhaff-wifrau wedi ei fachu yn y blaenaf o'r pedair wagen wag oedd yn barod i ddringo i fyny'r inclên i gael eu hail-lwytho. Yr un drefn ddefnyddid ym Mhenmaenmawr hefyd. Roedd yr Inclên Fawr yn serth ac yn mesur 850 o fetrau o hyd o'r Gwaith i lawr i'r swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Yn y fan honno câi'r gwagenni llawnion eu tynnu gan geffylau y tri chwarter milltir olaf i lawr i'r harbwr. Ni ddaeth peiriant (locomotive) i'w tynnu o'r swyddfeydd i lan y môr tan y flwyddyn 1873.

Ar lethrau serthach 45 gradd, dwy yn tynnu dwy oedd y drefn, hynny ar yr incleniau byrrach a gysylltai ponciau'r chwarel â'i gilydd.

Bu'r Inclên Fawr yn defnyddio'r un dull yn union am bron i ganrif o amser. Ym 1959, fodd bynnag, cafwyd dull newydd o gludo'r cerrig o'r mynydd. Codwyd y cledrau o'r Gwaith i'r harbwr a chafwyd gwared â'r holl wagenni. Bellach, fe lwythid y cerrig yn y chwarel i lorïau mawrion (dumpers) a rhoddwyd wyneb tarmacadam ar yr inclên a gweddill y daith i greu ffordd newydd at y llongau. Collodd llawer o ddynion eu gwaith oherwydd hyn, ac fe lysenwyd y lorïau yn "Llwgwrs".

Mae'r Inclên yn dal yna ac fe'i defnyddir gan berchennog presennol Chwarel yr Eifl i fynd a dod ar hyd-ddi.


Cyfeiriadau