Hugh Evans (Hywel Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Hywel Eryri)
Jump to navigation Jump to search

Gwehydd oedd Hugh Evans (1767-1847) o ran ei alwedigaeth, ond cofir amdano heddiw fel bardd. Ysgrifennai dan y ffugenw "Hywel Eryri". Fe'i ganwyd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. Symudodd i Aber-erch, yna i Chwilog, ac wedyn i Blas Madog ym mhlwy Clynnog Fawr, ac yn olaf i ardal Pen-y-groes. Dichon mai yn Uwchgwyrfai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn weddol ifanc; ysgrifennodd gywydd ar "Cariad" ar gyfer eisteddfod Bangor, c.1790, ac un arall yn 1802 ar "Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802". Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi ym mlodeugerdd Corph y Gaingc (1810), a luniwyd gan Dafydd Ddu Eryri. Roedd yn un o'r beirdd a atgyfododd hen fesur yr englyn cil-dwrn. Bu farw ym Mhen-y-groes rywbryd ar ôl mis Mai 1847.[1]

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri i gyfarfod ym Metws Garmon er mwyn trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.[2]

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen yn Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.223, lle rhoddir dyddiad ei farwolaeth yn anghywir; LlGC Cwrtmawr 466B
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883