Hywel D. Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Hywel D. Roberts (1910-1989) yn fab i Robert Roberts, pobydd, 7 Rhes Nantlle, Nantlle, a’i wraig Annie, ac yn ail o’u pedwar plentyn.[1] Er iddo hanu o Ddyffryn Nantlle, fe ddaeth yn enwog fel addysgwr, pwyllgor-ddyn a dyn cyhoeddus ar draws Cymru yn ystod ei oes, gan fyw mewn sawl man.

Ar ôl mynychu Ysgol Tal-y-sarn aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes lle gwnaeth enw iddo ei hun am, ymysg pethau eraill, sefydlu cangen gynnar a chryf o Urdd Gobaith Cymru yn yr ysgol. Roedd hyn ym 1925.

Ar ôl gadael yr ysgol a gweithio i’r Urdd yn ne Cymru am gyfnod, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.A. ac ennill Diploma Addysg. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Geltaidd a changen y coleg o Blaid Cymru, yn ogystal â gweithredu fel Ysgrifennydd Cyngor y Myfyrwyr. O’r fan honno aeth ymlaen i fod yn athro yn Ysgol Penrhyndeudraeth. Trwy gydol yr amser hwn, bu’n weithgar iawn gyda Phlaid Cymru.[2]

Am ddwy flynedd o 1947 i 1949 bu’n Swyddog Addysg Bellach Sir y Fflint ac o 1951 i 1953, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Wigan, Swydd Caerhirfryn. Bu’n brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 1955-8.[3] Cafodd swydd wedyn fel pennaeth Adran Addysg Coleg Hyfforddi Caerdydd. Wedi iddo ymddeol o’r swydd honno ym 1974, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mudiad Ysgolion Meithrin, ac fe wasanaethodd ar nifer o fyrddau a phwyllgorau pwysig a oedd yn ymwneud â’r byd addysg yng Nghymru.

Am gyfnod tua 1970, ac yntau’n byw yng Nghyncoed, Caerdydd, bu’n Ysgrifennydd mygedol cangen Cymru o’r Gyngres Geltaidd.[4]

Ar hyd ei oes bu’n boblogaidd fel cyflwynydd mewn cyngherddau ac eisteddfodau. Pan ddaeth TWW, sef y sianel deledu fasnachol, i fodolaeth ym 1960, cafodd gyfle i gyflwyno llawer o raglenni ar gyfer ieuenctid Cymru, megis “Am y Gorau” a “Colegau Cerdd”.[5] Gwasanaethodd fel un o gyflwynwyr llwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am ddeugain mlynedd, 1949-1988; ac fe’i penodwyd yn Is-lywydd am Oes yr Eisteddfod honno.[6]

Bu farw ym 1989, gan adael ei wraig, Glenys, a dau fab.

Cyfeiriadau=[golygu]

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1911-21
  2. Gwefan Hanes Plaid Cymru, Oriel y Blaid 45, [1], cyrchwyd 16.11.2022
  3. LlGC, Papurau Alwyn D. Rees, FF142
  4. LlGC, Papurau Maxwell Fraser, A/4226
  5. “Teledu yng ngwlad y gân”, [2], cyrchwyd 16.11.2022
  6. Gwefan Eisteddfod Llangollen, [3], cyrchwyd 16.11.2022