Hugh Menander Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ganwyd Hugh Jones (1846-1928) i John ac Elin Jones, Tyddyn Difyr, Carmel, Llandwrog Uchaf. Chwarelwr oedd ei dad ac yn y man dilynodd ei fab ef i’r chwarel. O’r safle ddistadl honno fe dyfodd i fod yn un o arweinwyr y diwydiant chwarelyddol a’i gymdeithas gysylltiol yn Nyffryn Nantlle. Yn ogystal â hynny, llwyddodd i ganfod yr amser i ymhél gydol ei oes â gwleidyddiaeth leol a llenyddiaeth. Erbyn 1871, roedd ei allu wedi arwain at swydd well, sef clerc yn y chwarel. [1] Clywir sôn amdano erbyn 1884 fel lodjer yn Swyddfa’r Post, Carmel [2] ac fe briododd â Priscilla, Cymraes o Lerpwl - ond gyda chysylltiadau â Diserth, Sir y Fflint - ym 1890. Lluniwyd englynion pert iddo ar yr achlysur hwnnw gan ei ffrind Alafon.[3] Roedd Priscilla wedi bod yn cynnal busnes gwerthu melysfwydydd.[4] Erbyn 1891, cartref y teulu oedd 3 Mount Pleasant ym mhentref Carmel, ac yr oedd merch fach, Myfanwy, wedi cyrraedd, a Hugh M. Jones yn cael ei ddisgrifio fel “rheolwr chwarel lechi". Roedd y teulu’n ddigon cyfforddus eu byd yn ariannol iddynt gyflogi nyrs i ofalu am y babi.[5].

Dichon iddo ymddiddori mewn barddoniaeth o oedran gweddol ifanc, gan iddo gael ei urddo i radd Ofydd yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1878. Mewn adroddiad am yr eisteddfod honno, nododd ei enw fel “Hugh Jones (Menander), Llandwrog”.[6] 32 oed ydoedd ar y pryd, ac mae’n amlwg ei fod wedi mabwysiadu enw barddol erbyn hynny - roedd y Menander gwreiddiol yn fardd clasurol Groegaidd a oedd yn adnabyddus am ei farddoniaeth ysgafn a doniol, a dichon fod hynny’n adlewyrchu chwaeth yr Hugh ifanc, ac yn sicr yn tystio i ddarllen lled eang.

Ymddengys, fodd bynnag, fod ei ddiddordebau yn ei arwain at hanes ac ysgrifennu rhyddiaith, er iddo aros yn fardd medrus, fel mae “Dyffryn Terfyniad”, telyneg yn dathlu cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ei ddangos. Fe’i cyhoeddwyd yn Y Cymro ym 1919.[7] Nis enwyd ef mewn rhestr o 18 o feirdd y dyffryn ym 1888.[8] Ymysg ei waith cyhoeddedig roedd un gyfrol, “Bywgraffiad i’r diweddar Barch. William Hughes, Talysarn”, a gyhoeddwyd ym 1881. Ymysg ei waith sylweddol arall roedd erthygl awdurdodol ar y Chwarelwyr yn Y Geninen[9]; erthygl ar John J. Evans, ysw., FGS yn Y Geninen[10]; a chyfres o erthyglau ar hanes y chwareli yn Y Genedl ym 1914.[11]

Yn ystod y 1880au fe ddatblygodd Hugh Jones ochr arall i’w bersonoliaeth, sef y dyn cyhoeddus a wasanaethodd ar nifer o gyrff lleol – yn ddarlithydd poblogaidd, llywydd cyfarfodydd diwylliannol, aelod o’r bwrdd ysgol lleol ac ati. Erbyn hyn hefyd roedd wedi mabwysiadu Menander fel enw canol, a bellach yr oedd pob cyfeiriad ato ar ffurf “John Menander Jones”. Ym 1880 fe'i codwyd yn flaenor yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC).[12]

Erbyn 1894, roedd wedi cyrraedd lefel uchel yn niwydiant llechi’r dyffryn, trwy fod yn oruchwyliwr yn Chwarel Cornwall neu Chwarel South Dorothea, i ddefnyddio’r enw diweddarach ar y lle.[13] Ym 1893 symudodd y teulu o Garmel i bentref Tal-y-sarn gan wneud eu cartref yn 2 Ffordd Coedmadog.[14] Cafodd groeso mawr yn Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn ac fe'i galwyd yn flaenor yn syth - yr olaf yn henaduriaeth Arfon i dderbyn y swyddogaeth o flaenor capel heb bleidlais gudd.[15]

Rhaid ei fod wedi ennill enw da ymysg y gweithwyr gan iddynt ei gynnig fel ysgrifennydd ariannol Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru wedi iddo ymadael â South Dorothea - er iddo golli yn y bleidlais olaf.[16] Ym 1910 fe’i penodwyd yn rheolwr ar chwareli teulu Robinson yn y dyffryn.[17] ac yno y bu nes iddo ymddeol.

Roedd rheoli chwareli Robinson yn swydd annisgwyl iddo ei chael, gan iddo sefyll yn erbyn Thomas Robinson, y perchennog, ym 1903 am le ar y Cyngor Sir, gan ei drechu; safodd ar anogaeth y Gymdeithas Radicalaidd leol, gan fod Robinson – dyn yr oedd parch cyffredinol tuag ato – yn Eglwyswr ac yn Dori, a rhaid oedd sicrhau buddugoliaeth o blaid y gweithwyr capelyddol a rhyddfrydol.[18] Bu farw Thomas Robinson fodd bynnag ym 1905, gan adael y chwareli i’w dair merch.

Cynyddodd swyddogaethau cyhoeddus Menander fel aeth y blynyddoedd heibio: Gwarcheidwad a Goruchwyliwr y Tlodion cyn 1892[19]; un o aelodau cyntaf Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai[20]; ac aelod o’r Cyngor Sir.[21]. Roedd yn aelod ffyddlon ac yn flaenor gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, yn llywyddu yn y Cyfarfod Misol ac ati.[22] Cyfrannai’n hael at achosion a thystebau pan ddeuai’r gofyn.[23]

Yn y man, symudodd Menander a’i wraig i dŷ arall, Bodawel, Tal-y-sarn. Bu farw Menander ym 1928 yn 82 oed.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1871
  2. Y Genedl Gymreig, 3.12.1884, t.7
  3. Y Genedl Gymreig, 9.4.1890
  4. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1921
  5. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1891
  6. Y Genedl Gymreig, 3.10.1878, t.5
  7. Y Cymro, 15.1.1919, t.5
  8. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  9. Y Geninen, Cyf.II,4 (Hydref 1884), tt.307-9
  10. Y Geninen, Rhifyn arbennig Gŵyl Dewi 1903, t.62
  11. Y Genedl, 13.1.1914, t.8
  12. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), tt.250-1
  13. Y Genedl Gymreig, 6.2.1894
  14. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1901
  15. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.326
  16. Yr Herald Cymraeg, 24.3.1908
  17. North Wales Express, 11.3.1910, t.5
  18. Y Cloriannydd, 17.12.1903, t.6
  19. Caernarvon and Denbigh Herald, 18.3.1892, t.8
  20. North Wales Chronicle, 22.12.1894, t.6
  21. Caernarvon and Denbigh Herald, 4.5.1900, t.5
  22. Y Genedl Gymreig, 28.8.1901, t.6
  23. e.e. Y Goleuad, 17.11.1905, t.14