Hugh Beaver Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor; er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint, roedd cartref ei dad, Hugh Roberts, yn dŷ o'r enw Glan-y-Fenai, Llandegfan. Roedd teulu ei fam, Anne Beaver, yn byw yn Glyn Garth.[1] Priododd Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái ym 1848. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, bedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.[2] Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Yn ddiweddarach, bu ei holl ddiddordebau busnes gwahanol yn golygu ei fod yn gorfod byw oddi cartref am gyfnodau, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.[3] Bu farw ei wraig Harriet ym 1899.[4] Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.[5] Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.[6]

Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirpry arglwydd raglaw yn Sir Feirionnydd.[7]

Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[8]

Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901; J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  2. Cyrfifiad Bangor 1861
  3. Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  5. Cyfrifiad Bangor 1901
  6. Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903
  7. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901
  8. Gwefan Heneb, [1], cyrchwyd 7.1.2022