Henry Hughes (Gwelltyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Disgrifiwyd Henry Hughes (Gwelltyn) (1843 - ar ôl 1918) fel garddwr, crefftwr, bardd a cherddor, er iddo ddechrau ei yrfa fel morwr, cyn troi at waith fel chwarelwr llechi. Fe’i ganed ym mhlwyf Clynnog-fawr, yn fab (fe dybir) i Thomas Hughes, gwas fferm, a’i wraig Catherine, Pen-y-groeslon, Pontlyfni. Ym Mhen-y-groeslon yr oedd mam a thad Catherine (Richard a Grace Griffith) yn byw'n ogystal â Thomas a Catherine a’u dau fab a thair merch. Henry oedd yr ail fab ac ail blentyn y teulu. Diddorol yw sylwi fod Thomas Hughes, tad Henry, yn ddyn dŵad o blwyf Llandrillo ym Meirionnydd. [1]

Erbyn 1871, roedd Henry Hughes wedi priodi â Hannah, a hanai o blwyf Dolbenmaen, ac yr oedd y cwpl a’u pedwar o blant ifanc yn byw mewn tŷ capel ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn, tŷ capel Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn yn ôl pob tebyg. Disgrifiwyd Henry fel chwarelwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach yr oedd y teulu’n dal yno.

Symudodd Henry Hughes a’i wraig Hannah i gadw tŷ capel Capel Tan'rallt (MC) pan y’i hagorwyd ym 1882. Yn symud gyda nhw yr oedd eu chwe phlentyn: Richard (g.1865); Thomas (g.1867); Catherine neu Kate (g.1870); Joseph N. (g.1872); Janet E. (g.1875); ac Ifor Aled (g.1878). Cawsant ddau blentyn arall wedi hynny sef Henry F. (neu Harri i’r teulu) (g.1882) ac Olwen H.G. (g.1887). [2]

Y flwyddyn gyntaf iddynt fod yn Nhan’rallt sefydlodd Henry a Hannah gylchwyl lenyddol a gynhelid bob blwyddyn ar ddydd Nadolig yn y capel. Parhaodd y gylchwyl am hanner can mlynedd a mwy. Disgrifiodd y Parch. Alwyn Thomas, un o’u hwyrion, yr aelwyd yn y geiriau canlynol:

Yr oedd Tŷ Capel yn gyrchfan cerddorion, beirdd a llenorion cenedlaethol. Deuai Eifionydd yn ei dro a mynych y bûm yn gwrando ar fy nhaid ac yntau’n trafod y cynganeddion. Ac onid braint i blentyn oedd clywed sgyrsiau pobl fel Syr Ifor Williams a Silyn a {R. Alun Roberts|Dr. Alun]] ar yr aelwyd?

Ymysg ei weithgareddau cerddorol oedd cyd-sefydlu Seindorf Arian Pen-yr-orsedd. Yr oedd yn aelod o’r Tal-y-sarn Glee Society (un o gorau mwyaf llwyddiannus ac enwog Gogledd Cymru yn ei ddydd). Ef oedd yn arwain y côr lleol, Côr Tan’rallt, hefyd.

Fel bardd, efallai nad oedd mor ddisglair. Mewn rhestr o feirdd Dyffryn Nantlle a luniwyd ym 1888, yn ôl trefn rhagoriaeth, gosodwyd Gwelltyn yn drydydd ar ddeg allan o ddeunaw.[3] Nid yw’n sicr pryd y dechreuodd arddel yr enw barddol “Gwelltyn”. Ym 1881, ac yntau’n dal i fyw yn Hyfrydle, Tal-y-sarn, “Gwelltyn Gwynfa” oedd yr enw a ddefnyddid ganddo.< ref>Y Genedl Gymreig, 9.6.1881, t.7 </ref> Serch hynny, “Gwelltyn” oedd yr enw a ddefnyddiwyd ganddo pan gyhoeddodd nofel fer, “Y Ddau Efaill”, mewn dwy bennod ar bymtheg ym mhapur newydd Y Dydd y flwyddyn flaenorol.[4]

Yr oedd Henry a Hannah Hughes, ynghyd ag Olwen, yn dal i fyw yn y tŷ capel ym 1911 pan wnaed y Cyfrifiad y flwyddyn honno.[5]

Bu’n cystadlu ac yn beirniadu am flynyddoedd lawer, o ddiwedd yr 1870au tan o leiaf 1918, a hynny mewn canu ac mewn barddoniaeth. Ac yntau’n 75 oed, cafodd ei urddo i urdd bardd yn Arwest Farddonol Glan Geirionnydd ym 1918.[6]

Yr oedd Henry Hughes yn daid i Mathonwy Hughes, mab Joseph Hughes; ac i’r Parch. Alwyn Thomas, a oedd yn fab i Janet a’i gŵr Griffith R. Thomas. [7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1851
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1871-1901
  3. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  4. Y Dydd, 26.3.1880 - 16.7.1880
  5. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1911
  6. Yr Herald Cymraeg, 27.9.1918, t.3
  7. Ffeithiau nad ydynt wedi eu cydnabod fel arall: Ffion Eluned Owen, “Roedd hi’n werth byw yn Nhan’rallt yn y dyddiau hynny”, Lleu, Mawrth 2022, t.15