Hendre (Llanwnda)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Hendre yn fferm ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog, yn nhreflan Dolydd. Mae'r enw'n arwyddocaol, gan na fu erioed yn ddim ond "Hendre" (h.y. dim Hendre rhywbeth neu'i gilydd), ac mae'n ffinio â fferm Hen Gastell oedd yn ganolfan leol ac yn debyg o fod yn llys canoloesol bonheddwr Cymreig. Os felly, dyma fferm y plas fel petae yn y canol oesoedd. Tua 20 erw yw'r fferm bresennol, ond arwyddocaol hefyd yw'r ffaith fod Traean (sef trydedd ran) a Chefn Hendre yn cydffinio â'r Hendre. Ni fu erioed yn rhan o ystad sylweddol ychwaith, ac felly mae wedi newid dwylo sawl tro fel eiddo rhydd-ddaliadol.

Y perchennog a phrewylydd pwysicach o ddigon oedd Edmund Glynn, chweched mab Glynllifon, a brynodd yr eiddo fel cartref iddo fo a'i wraig tua 1654. Aeth ati i ymestyn y ffermdy a oedd ar lan Afon Carrog. Serch hyn, ar ol sawl perchennog a thenant gwahanol, aeth y tŷ'n furddun a thua 1865 symudodd teulu'r fferm i fyw yn Nholldy Dolydd a oedd yn sefyll ar dir yr Hendre. Arhosent yno tan 1919 pan godwyd tŷ newydd, yr Hendre presennol ar safle newydd lled cae o'r hen blas ger yr afon; cafodd y tŷ newydd hwnnw ei helaethu ym 1956 a 1987.

Roedd hen adeiladau fferm (beudy, parlwr llaeth, stablau a thŷ gwair) eu troi'n dŷ a gwesty gan John Rowlands yr awdur a'i wraig ym 1980.