Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd yr Eglwys Bresbyteraidd (neu'r Methodistiaid Calfinaidd) yn cynnwys tiriogaeth cantref Llŷn a chwmwd Eifionydd. Yr oedd dau neu dri o gapeli Uwchgwyrfai hefyd yn gynwysedig, sef Capel Tai Duon, Capel Libanus (MC), Pant-glas a Chapel Bwlchderwin dichon oherwydd eu bod yn nes at Eifionydd nag at ran helaethaf capeli Calfinaidd Henaduriaeth Arfon.

Erbyn hyn mae'r henaduriaeth wedi uno â Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd i ffurfio Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma