Hen Gastell

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Trigfan sy’n dyddio o’r oesoedd canol yw Hen Gastell, yn Llanwnda.

Mae’r tir yn perthyn i fferm Hen Gastell, a bu gwaith archeolegol ar y safle rhwng 2014 a 2016. Yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, nid yw’r safle yn ddigon mawr i fod yn gaer amddiffynnol, fel y tybiodd nifer. Yn ôl eu datganiad hwy, mae’n debyg fod mai cartref i Arglwydd neu berson arwyddocaol oedd y lle yn yr oesoedd canol, oherwydd ei faint a’r ffaith fod olion gofaint ac arteffactau amryw wedi eu darganfod yno.

Gall mai dyma oedd un o safleoedd arglwydd y cwmwd rywbryd yn y canol oeseodd. Mae'n sefyll ar fymryn o godiad tir yng nghanol tir gweddol ffrwythlon, ac ar ffin dau blwyf (Llanwnda a Llandwrog); mae fferm gyfagos gyda'r enw 'Hendre', ac mae Traean (sef 'trydedd ran') a Cefn Hendre gerllaw - a fyddai gyda'i gilydd yn creu uned o tua 60 acer, fferm deilwng ar gyfer fferm bersonol arglwydd lleol neu un o brif uchelwyr y cylch. Nid yw'r tair fferm a nodir yma na Hen Gastell ei hun yn cael eu rhestru ar y Record of Carnarvon, sydd yn dyddio o'r 14g, sy'n awgrymu mai tiroedd a feddiannwyd gan Goron Lloegr oedd y rhain. Mae'n werth nodi hefyd fod safle Melin Cil Tyfu, a oedd yn eiddo i'r Goron yn oes Elisabeth, ar dir Cefn Hendre a elwid weithiau yn Gefn Cil-tyfu. Ychydig yn bellach i'r gogledd-ddwyrain mae fferm y Gadlys ar godiad tir. Mae Hendre a Gadlys yn enwau a gysylltir â safleoedd llysoedd neu dai arglwyddi mewn mannau eraill o Ogledd Cymru. Mae angen mwy o waith i brofi neu ddatbrofi'r ddamcaniaeth hon, ond yn sicr mae'n haeddu ymchwil pellach yng ngoleuni canlyniadau'r cloddio diweddar.


Ffynonellau[golygu]

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Blog Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd am Hen Gastell

Copi PDF o adroddiad swyddogol yr Ymddiriedolaeth am Hen Gastell

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllys Margarett Lloyd, Kefn, Llanwnda. Cofnodion Profiant B1693-64 W.