Heddlu Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sefydlwyd Heddlu Sir Gaernarfon - fel heddlu pob sir - ym 1857, yn dilyn Deddf yr Heddlu 1856.

Cyn pasio'r ddeddf honno, yr oedd y ddyletswydd o gadw'r heddwch ac arestio drwgweithredwyr yn gyfrifoldeb y Festri, sef cyfarfod o drigolion plwyf i drafod materion sifil yn ogystal â rhai eglwysig, yn cynnwys codi trethi lleol, gwarchod y tlodion ac ati. Un o swyddogion y plwyf oedd y cwnstabl, a benodid am flwyddyn. Roedd yn atebol i'r ynadon am weithredu eu gorchmynion, ac fel y gellir ei ddychmygu, nid oedd y swydd yn un boblogaidd, yn arbennig gan nad oedd cyflog yn perthyn iddi fel rheol. Serch hynny, ceisiodd plwyf Llandwrog yn y pen draw dalu i'w cwnstabl er mwyn digolledu'r sawl oedd wedi derbyn y swydd; erbyn hynny, gyda thwf y chwareli a thwf yn nifer y plwyfolion, roedd hi wedi dod yn orchwyl bur feichus. Er i Landwrog ystyried y mater ym 1845, dim ond ym 1855 y cytunodd y rhai a fynychodd y Festri i dalu £5 y flwyddyn i'r cwnstabl. Nid oedd hyn mewn gwirionedd ond yn daliad bychan - o ystyried y telid o leiaf £42 y flwyddyn i gwnstabliaid cyflogedig cyntaf y sir ddwy flynedd yn ddiweddarach.[1]

Nid oedd y Ddeddf Heddlu'n boblogaidd gyda'r ynadon gan fod rhaid i'r sir dalu tri chwarter costau'r llu newydd, a byddai hynny'n arwain at ddyblu, bron, y dreth sirol. Serch hynny, gwrthodwyd yr awgrym y gellid ffurfio llu ar y cyd ag Ynys Môn, ac aethpwyd ati i benodi pennaeth, neu "Brif Gwnstabl", ar gyfer y llu. Cafwyd tua 100 o geisiadau, llawer ohonynt gan bobl gwbl anaddas, ond yn y pen draw, penodwyd Cymro Cymraeg o un o deuluoedd bonheddig y sir, Thomas Parr Williams Ellis, i'r swydd. Roedd yn aelod o deulu Glasfryn, y plasty nid nepell o ffin cwmwd Uwchgwyrfai.[2]

Rhannwyd y sir yn bum rhanbarth at ddibenion yr heddlu, gydag Uwchgwyrfai’n rhan o ranbarth â’i ganolfan yng Nghaernarfon dan ofal arolygwr a enillai £65 y flwyddyn. [3]

Ceir yr hanes yn llawn yn llyfr J. Owain Jones (gweler y Cyfeiriadau isod).

Daeth Heddlu Sir Gaernarfon i ben ym 1950, pan unwyd y llu gyda lluoedd Môn a Meirionnydd i ffurfio Heddlu Gwynedd, a unwyd unwaith yn rhagor yn nes ymlaen gyda lluoedd eraill i ffurfio Heddlu Gogledd Cymru.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J. Owain Jones, The History of the Caernarvonshire Constabulary, 1856-1950 (Caernarfon, 1963), tt.24, 30
  2. J. Owain Jones, The History of the Caernarvonshire Constabulary, 1856-1950 (Caernarfon, 1963), tt.27-8
  3. J. Owain Jones, The History of the Caernarvonshire Constabulary, 1856-1950 (Caernarfon, 1963), tt.29- 30