Hafod y Wern, Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Hafod y Wern yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog Fawr.

Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, Ystad Glynllifon, oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.[1]

Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i Howell Roberts (Hywel Tudur), gweinidog, ysgolfeistr a dyfeisydd, cyn iddo symud i'w gartref newydd, Bryn Eisteddfod, ar gyrion Clynnog. Yn Hafod y Wern hefyd y magwyd yr awdur a'r naturiaethwr Twm Elias a'i chwaer Marian Elias (Roberts yn ddiweddarach), sy'n Ysgrifennydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 315-16.