Hafod Boeth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Saif fferm Hafod Boeth ar gyrion Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Cyfeirir at y lle fel havod boeth mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.

Elfen gyntaf Hafod Boeth yw hafod < haf + bod, sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw Hafod ar lechweddau Uwchgwyrfai. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw Hafod, + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel; yn wir, mae Hafod Boeth ar dir nad yw'n fynyddig o gwbl, rhwng Capel Bryn'rodyn (MC) a Maestryfan. Yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen boeth yn enw Hafod Boeth gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. [1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.