Gwynedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Baner Gwynedd

Gall Gwynedd gyfeirio at deyrnas ganoloesol yn ystod Oes y Tywysogion, yn gyffredinol at yr ardal honno wedi hynny, neu at y sir fodern.

Rhannwyd yr hen Wynedd yn nifer o gantrefi a chymydau. Roedd Uwchgwyrfai yn un o ddau gwmwd Arfon.

Ystyr yr enw "Gwynedd"[golygu]

Gwyndyd ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd') oedd yr hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) Uenedoti (sail y gair Lladin Canol Venedotia, Gwynedd).[1]

Cymraeg Gwynedd[golygu]

Yr enw a roddwyd ar dafodiaith Gwynedd yw "Gwyndodeg", sy'n cynnwys Cymraeg holl diroedd Sir Gaernarfon, Ynys Môn, y rhan fwyaf o Feirionnydd (ag eithrio Penllyn ac Edeirnion, a gorllewin Sir Ddinbych.[2]


Teyrnas Ganoloesol Gwynedd[golygu]

Gwynedd oedd yr enw ar hen deyrnas Cymru yn y gogledd-orllewin - ac ar adegau roedd rheolwyr Gwynedd yn ddigon cryf i reoli rhannau eraill o Gymru, gan ymestyn ffin Gwynedd i'r dwyrain - yn wir, nid yw'r hen garreg ffin a elwir yn Faen Gwynedd, sy'n dynodi'r ffin rhwng Gwynedd a Phowys ar un adeg, nepell o'r fin â Lloegr, ger Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gwynedd[golygu]

Lle nad yw dyddiadau isod yn cydredeg, mae hyn yn dynodi cyfnodau pan oedd y deyrnas yn rhanedig neu'r awdurdod wedi ei rannu rhwng mwy nag un tywysog.

   Cunedda ap Edern (Cunedda Wledig) (c.450-c.460)
   Einion ap Cunedda (Einion Yrth) (c.470-c.480)
   Cadwallon ap Einion (Cadwallon Lawhir) (c.500-c.534)
   Maelgwn Gwynedd (c.520-c.547)
   Rhun ap Maelgwn Gwynedd (c.547-c.580)
   Beli ap Rhun (c.580-c.599)
   Iago ap Beli (c.599-c.613)
   Cadfan ap Iago (c.613-c.625)
   Cadwallon ap Cadfan (c.620-634)
   Cadafael ap Cynfeddw (Cadafael Cadomedd) (634-c.655)
   Cadwaladr ap Cadwallon (Cadwaladr Fendigaid) (c.655-c.682)
   Idwal ap Cadwaladr (Idwal Iwrch) (c.682-c.720)
   Rhodri ap Idwal (Rhodri Molwynog) (c.720-c.754)
   Caradog ap Meirion (c.754-c.798)
   Cynan ap Rhodri (Cynan Dindaethwy) (c.798-816)
   Hywel ap Rhodri Molwynog (814-825)
   Merfyn Frych ap Gwriad (825-844)
   Rhodri ap Merfyn (Rhodri Mawr) (844-878)
   Anarawd ap Rhodri (878-916)
   Idwal Foel ab Anarawd (916-942)
   Hywel ap Cadell (Hywel Dda) (942-950)
   Iago ab Idwal (950-979)
   Ieuaf ab Idwal (950-969)
   Hywel ab Ieuaf (979-985)
   Cadwallon ab Ieuaf (985-986)
   Maredudd ab Owain (986-999)
   Cynan ap Hywel (999-1005)
   Aeddan ap Blegywryd (1005-1018)
   Llywelyn ap Seisyll (1018-1023)
   Iago ap Idwal ap Meurig (1023-1039)
   Gruffudd ap Llywelyn (1039-1063)
   Bleddyn ap Cynfyn (1063-1075)
   Rhiwallon ap Cynfyn (1063-1070)
   Trahaearn ap Caradog (1075-1081)
   Gruffudd ap Cynan (1081-1137)
   Owain Gwynedd (1137-1170)
   Maelgwn ab Owain Gwynedd (1170-1173)
   Dafydd ab Owain Gwynedd (1170-1195) (yn y dwyrain)
   Rhodri ab Owain Gwynedd (1170-1190) (yn y gorllewin)
   Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) (1195-1240)
   Dafydd ap Llywelyn (1240-1246)
   Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) (1246-1282)
   Owain ap Gruffudd (Owain Goch) (1246-1255)
   Dafydd ap Gruffudd (1282-1283)

Mae manylion am bob un o'r uchod i'w cael ar dudalenni Wicipedia.

Pencadlys y brenhinoedd/teyrnon cynnar oedd Deganwy, ond yn ddiweddarach ac ar gyfnodau o helbul o'r dwyrain, ymsefydlodd llinach Gwynedd yn Aberffraw, Ynys Môn ac Abergwyngregin.

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffudd y flyddyn ganlynol, daeth teyrnas Gwynedd i ben. Ceisiodd Owain Lawgoch hawlio teyrnas Gwynedd a Chymru yn 1372 a 1377, ac yr oedd gan Owain Glyn Dŵr gysylltiadau teuluol â thywysogion Gwynedd hefyd.[3]

Gwynedd ar ôl 1284[golygu]

Wedi goresgyniad y Saeson dros Gymru, fe barhaodd Gwynedd yn dywysogaeth annibynnol i bob pwrpas, ond yn eiddo i frenhinoedd Lloegr, ac o dan gyfraith Lloegr (ac eithrio materion sifil megis deddfau etifeddu a arhosai'n unol â'r gyfraith Gymreig. Fe'i hystyrid fel "Tywysogaeth Gogledd Cymru". Fe'i ffurfiwyd siroedd ar batrwm trefn Lloegr ym 1284; wedi hynny roedd Uwchgwyrfai yn ran o Sir Gaernarfon. Unwyd Tywysogaeth Gogledd Cymru (yr hen Wynedd) gyda gweddill Cymru gan y deddfau uno, 1536 a 1543.

Gwynedd yn y cyfnod modern[golygu]

Parhaodd y defnydd o'r enw "Gwynedd" i ddisgrifio hen ardal tywysogion Gwynedd gan haneswyr, hynafiaethwyr a'r rhai oedd am gael term hwylus ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru. Nid oedd unrhyw ddefnydd swyddogol o'r enw, fodd bynnag, nes i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru), 1972, greu siroedd mawr unedig o 1974 ymlaen. Am hanes y cyfnod hwnnw, gweler yr erthygl Cyngor Sir Gwynedd. Ym 1996, crëwyd siroedd llai, a dewiswyd yr enw Gwynedd ar ardal oedd yn cynnwys gorllewin yr hen siroedd Caernarfon a Meirionnydd. Am y cyfnod ar ôl 1996, gweler r erthygl Cyngor Gwynedd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wicipedia, erthygl ar y Wyndodeg, [1], adalwyd, 04.09.20218
  2. Wicipedia, erthygl ar y Wyndodeg, [2], adalwyd, 04.09.20218
  3. Wicipedia, [3], adalwyd 2.8.2018