Gwyndaf Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae eglwys plwyf Llanwnda yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i Sant Gwyndaf (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma.

Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Ben Llŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill hwnnw, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur.

Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn fod yn fyw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Christnogaeth Cymnru. Digon posibl hefyd yw'r awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC.

Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy sydd yno bellach gyda'r enw hwnnw.

Ffynonellau[golygu]

  1. Chris Barber a David Pykitt, Journey to Avalon, (York Beach, 1997), t.230-1.