Gwilym R. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am 32 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).

Chwarelwr oedd ei dad, John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel Dorothea cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.

Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r Genedl,Yr Herald Cymraeg, Y Dinesydd, Y Werin, Yr Eco a Phapur Pawb ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon. Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.

Ei yrfa, yn fras:[golygu]

  • Gohebydd i bapurau'r Herald, Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
  • Golygydd Herald Môn am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
  • Golygydd Y Brython yn Lerpwl, 1931-1939.
  • Golygydd y North Wales Times ac Is-olygydd Y Faner yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."[1] Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
  • Ymhelaethodd ar ei gyflog ar dud. 115 o'i Hunangofiant: "...Y swm o £5 yn wythnosol a allai perchenogion Y Faner ei gynnig imi fel cyflog am fod yn olygydd y North Wales Times (Dinbych) ym 1939, a rhyw bunt yn ychwanegol oedd cyflog golygydd Y Faner ym 1945. Sut, felly, y gallodd pobl fel Mr. Mathonwy Hughes, yr is-olygydd, a mi ddal ati i geisio cynhyrchu'r fath wythnosolyn yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hynny (câi ef lai o £1.00 na mi bob wythnos)? Gorfu inni weithio'n hwyr y nos i lywio Dosbarthiadau Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol mewn ardaloedd diarffordd, teleffonio "straeon" i'r papurau Saesneg a gyrru sgriptiau i'r BBC. A daeth ein cyfaill caredig, y Prifardd Rhydwen Williams, i'r adwy......"
  • Ar ôl marw Morris T. Williams aeth Y Faner i afael cwmni dieithr a daliodd cyflwr economaidd Y Faner i waethygu.
  • Y diwedd fu i'r cwmni gynnig y papur am "gini" i'r Dr. Huw T. Edwards.
  • Symudwyd Y Faner i Wasg y Sir, Y Bala, a oedd yn eiddo i Idris Evans a'i ddau fab, Gwyn ac Eifion. Bu eu cefnogaeth i'r papur, a'u haberth, yn eithriadol o hynny ymlaen.
  • Gwerthodd Dr. Huw T. Edwards y papur i'r Wasg hon ac i Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.
  • Methiant fu cais y papur i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r unig gam ymlaen yn y diwedd fu iddynt wneud hynny ar yr amod y byddai'n peidio â bod yn newyddiadur ond yn gylchgrawn, ac felly y byddai'n rhaid penodi Golygydd newydd. Rhaid, felly, oedd i Gwilym R. Jones ymddeol yn y flwyddyn 1977 i wneud lle i'r Golygydd newydd.

Bardd a Llenor[golygu]

Gwilym R. Jones oedd y cyntaf i ennill y tair brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol: y Goron (1935), y Gadair (1938) a'r Fedal Ryddiaith (1941).

Cyhoeddiadau: 5 cyfrol o gerddi: Caneuon (1953) Cerddi (1969) Y Syrcas a Cherddi Eraill (1975) Y Ddraig (1978) Eiliadau (1981)

Dwy nofel fer: Y Purdan (1942) Seirff yn Eden (1963)

Ei Hunangofiant: Rhodd Enbyd, Llyfrau'r Faner (1983)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Allan o Rhodd Enbyd, Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).