Gwilym Owen, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwilym Owen)
Jump to navigation Jump to search

Ganed Gwilym Owen ym 1904 yn Llanaelhaearn, a bu'n byw ym mro'r Eifl am y rhan fwyaf o'i fywyd. Chwarelwr oedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd bron i hanner canrif yn gweithio yn 'Y Gwaith', sef chwarel ithfaen Trefor. Ymddiddorodd mewn hanes lleol, ac roedd yn gerddor medrus hefyd. Casglodd hanes ei fro, gan gyhoeddi dau lyfryn arloesol :

  • Hanes y Neuadd a Maes Chwarae Trefor (1971)
  • Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (1972)

Ysgrifennodd lyfryn o atgofion Dan Gysgod yr Eifl (1978). Bu Gwilym yn aelod yng Nghapel Gosen ac fe fu'n Arweinydd y Gân yno am flynyddoedd lawer. Cyfansoddodd emyn-dôn o'r enw Padstow - lle bu ef (ynghyd â nifer o chwarelwyr eraill o Drefor) yn gweithio mewn chwarel ithfaen am gyfnod pan oedd dirwasgiad a diweithdra yn Chwarel yr Eifl. Bu'n aelod o Seindorf Trefor am 35 o flynyddoedd, ac yn arweinydd y Seindorf am gyfnod o 1956 hyd 1961.


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma