Gwernor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Gwernor yn hen ffermdy ym mhlwyf Llanllyfni ar ochr ogleddol y lôn rhwng Tal-y-sarn a Nantlle; roedd bron ar lan Llyn Nantlle Isaf nes i’r llyn hwnnw gael ei sychu, a chan fod perchnogion Gwernor yn berchen ar ran o’r llyn, enillwyd peth tir wedi i hynny ddigwydd. Roedd tir Gwernor felly ar lethrau’r Cymffyrch ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle, a hyd at Llynnoedd Cwm Silyn.

Yn wreiddiol, roedd Gwernor yn rhan o Ystad Pant Du - mae cofnod o hynny mewn gweithred ddyddiedig 1625.[1]. Erbyn 1729, fodd bynnag, roedd Gwernor yn ystâd fechan ar wahân, a Hugh Prichard, bonheddwr, yn berchennog ar Dyddyn Gwernor, Tyddyn Gwern Fasgen, Tyddyn Llwyn Eilwaith, Tyddyn Tŷ Hen, Dolbebin a Cymffyrch Fechan. Cafodd Hugh Prichard fab o’r enw Richard Hughes, a mab hwnnw, David Hughes, yn priodi â dynes o Sir Fôn ac yn symud i Drefnant ac wedyn i Dreaserth, dwy fferm ar yr ynys.[2] Erbyn hynny (sef erbyn 1777) enwyd tiroedd yr ystâd fel Gwernor ei hun, Tŷ’n y Weirglodd, Tŷ Coch Isa, Tŷ Coch Ucha, Cae Gors a’r Weirglodd Ucha.[3]

Erbyn adeg y Map Degwm, 1842, roedd yr ystâd wedi ei chrynhoi’n dair fferm, sef Gwernor, Tŷ’n y Weirglodd a Thŷ Coch, a'r cwbl yn ymestyn dros 306 o erwau. Y perchennog oedd Hugh Thomas o Drefor, plwyf Llansadwrn, a oedd wedi ei hetifeddu trwy briodas. Roedd tenant, Ellen Owen, yn byw yng Ngwernor yr adeg honno; Robert Griffith yn Nhŷ Coch; a William Hughes yn Nhŷ'n y Weirglodd.

Gwnaed sawl ymgais i werthu’r ystad ym 1879[4] a 1889[5], cyn llwyddo i'w gwerthu ym 1894. Gwerthwyd Gwernor, rhan Gwernor o Lyn Nantlle Isaf a Thŷ Coch i Mr J. Gwynne Hughes am £5500, bwthyn o’r enw Gwernor Cottage i’r Capten Stewart am £90, a Thŷ’n y Weirglodd i John Robinson, perchennog chwareli o Blas Tal-y-sarn am £3800.[6] Yn ddiamau roedd gwerth yr ystad wedi cynyddu oherwydd bod nifer o chwareli wedi datblygu ar dir yr eiddo, yn cynnwys Chwarel Gwernor a Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, yn ogystal â mwynglawdd copr bychan.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, (Bangor) Mostyn 409
  2. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Bangor 28590-1
  3. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Bangor 28623
  4. Baner ac Amserau Cymru, 2.4.1879, t.1
  5. Y Genedl Gymreig, 17.7.1889, t.4
  6. North Wales Chronicle, 1.9.1894, t.8