Gwaith Llechi Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Gwaith Llechi Llifon (neu Gwaith Hafod-y-nant) tua chwarter milltir i fyny'r allt o dreflan Maes Tryfan, ar lan Nant yr Hafod, sy'n llifo i Afon Llifon. Weithiau, fe alwai pobl yr ardal y gwaith hwn "yr injian". Roedd dŵr yn cael ei gyfeirio yno hefyd o lyn ger Braich Trigwr Mawr, er mwyn troi olwyn ddŵr a yrrai beiriannau'r gwaith, a gynhyrchai lechi ysgrifennu a cherrig nâdd. Robert Jones oedd enw perchennog y gwaith.[1]

Yr oedd y gwaith llechi i'r dwyrain o'r lôn fach sydd ynh rhedeg o gyfeiriad Rhosnenan a'r Groeslon i bentref Maes Tryfan rhwng Hafod-boeth a Phen-y-bont. Mae tŷ newydd wedi ei godi ar y safle. Mae map o Ordnans cyntaf ar raddfa fawr, (1887) yn nodi bod y gwaith esioes wedi cau i lawr.[2]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.
  2. Map Ordnans 25" i'r filltir, gol. 1af, (arolygwyd 1887)