Guto Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Guto Roberts (1925-1999) yn actor, bardd, awdur, dyn cyhoeddus, darlithydd, ffotograffydd ac arlunydd ac, yn anad dim, yn ymgyrchydd di-flino dros y Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, yn frogarwr a gwladgarwr.

Ganed Guto (Griffith) Roberts ar 13 Mawrth 1925 yn Isallt Fawr, Cwm Pennant, yn ail fab i Jane a Morris Roberts. Roedd Isallt Fawr wedi bod yn gartref i deulu ei fam ers cenedlaethau a bu nifer ohonynt yn feddygon amlwg yn eu dydd. Ymhen pum mlynedd symudodd y teulu i bentref Rhos-lan, yn gyntaf i Fronolau Isaf ac yna i Muriau Mawr. Roedd yn fywyd caled i dyddynwyr yn ystod y 30au llwm a dwysawyd y sefyllfa gan salwch Morris Roberts y tad. Dioddefai o'r clefyd siwgr a bu farw ym 1938. Yn ystod y blynyddoedd dilynol ymdrechodd y fam yn lew dros ei meibion, Guto a'i frodyr, Wil a Morris. Bu Guto Roberts yn arbennig o agos at ei fam a chanodd englyn gwych o glod iddi:

  Er ei byw heb aur y byd - na'i chwennych,
       Ni chwynodd am ennyd;
     Hwyliodd trwy stormydd celyd
     Yn braf, canys uwch ei bryd. 

Aeth Guto i ddechrau i ysgol gynradd Llanystumdwy a oedd yn drwyadl Gymreig er ei bod yn gysylltiedig â'r eglwys wladol. Profiad tra gwahanol iddo oedd mynd ymlaen wedyn i'r Ysgol Sir ym Mhorthmadog gyda'i haddysg drwyadl Seisnig. Gadawodd yr ysgol ym 1941 a bu'n gweithio mewn siopau groser ym Mhorthmadog, Pwllheli a'r Ffôr. Daeth y siopwr medrus iawn ac yn y blynyddoedd hynny hefyd y dechreuodd ymddiddori o ddifri mewn llenyddiaeth, barddoniaeth a drama, a hynny dan arweiniad y Parch. J.T. Williams, gweinidog capel yr Annibynwyr yn Rhos-lan, a thrwy ymwneud hefyd â'r Aelwyd (nad oedd yn gysylltiedig â'r Urdd) yn Garndolbenmaen a mynychu dosbarthiadau'r WEA. Bu'r Aelwyd yn fagwrfa iddo fel dyn cyhoeddus ac actor a bu'n hynod weithgar gyda'i gweithgareddau amrywiol. Diwylliodd ei hun hefyd yn nosbarthiadau Meuryn ar y cynganeddion yn Llangybi ym 1955-6 a chyrsiau Cynan ar y ddrama yn Y Garn rhwng 1946 a 1950. Tystiodd Meuryn i'w ddawn fel englynwr a chynganeddwr llithrig.

Rhoddodd wasanaeth sylweddol i gapel Rhos-lan ar hyd y blynyddoedd gan weithredu fel ymddiriedolwr ac ysgrifennydd yr ymddiriedolwyr am gyfnod maith. Bu'r blynyddoedd rhwng 1989-1992, pan fu'n rhaid dod â'r achos i ben, yn rhai arbennig o drafferthus a phryderus iddo.

Rhwng 1954-1967 bu'n gweithio i Hufenfa De Arfon fel trafeiliwr yn gwerthu Menyn Eifion ar hyd a lled siroedd Caernarfon, Môn a Meirionnydd. Trwy'r teithiau hyn daeth i adnabod llu o bobl amrywiol. Yn nechrau'r 1960au y dechreuodd ddod i amlygrwydd fel actor a chynhyrchydd dramâu gyda Chymdeithas Ddrama Gymraeg Cricieth a'r Cylch, a Theatr y Gegin. Daeth yn llais cyfarwydd ar lwyfan ac ar y radio, gan ymddangos ar y teledu gyntaf ym 1965.

Yn y chwedegau hefyd dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth a throdd yn ddiweddarach at gamera ffilm a fideo gan gofnodi ar ffilm lu o ddigwyddiadau pwysig, cymeriadau lleol a chenedlaethol a pherfformiadau o bob math. Golygodd y cyfan yn ofalus ac mae'r casgliad pwysig ar gael bellach yn Archif Ffilm Genedlaethol Cymru. Daeth yn arlunydd medrus hefyd gan ddilyn dosbarthiadau celf Elis Gwyn Jones ym Mhwllheli. Ymddangosodd ei waith mewn sawl arddangosfa.

Ddechrau 1968 aeth i weithio'n llawn-amser fel actor i'r BBC. Cafwyd portreadau cofiadwy ganddo, e.e. fel Sem Llwyd yn Enoc Huws, Robat Wynn yn Gwen Tomos a Gwydion yn Blodeuwedd, ond fe'i cofir yn bennaf fel Ephraim Hughes yn y gyfres gomedi "Fo a Fe". Roedd yn gyfrannwr cyson hefyd i'r rhaglen "Rhwng Gŵyl a Gwaith" ar y radio. Yn ystod y 70au a'r 80au daeth i amlygrwydd cynyddol fel darlithydd gan ymdrin yn arbennig â hanes a llên Eifionydd - arweiniodd hyn at y gyfrol gampus Eifionydd ym 1998. Pynciau eraill y bu'n darlithio arnynt oedd y bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon; teulu ei hen gartref Isallt Fawr, a'r cerddor a'r botanegydd, J. Lloyd Williams a'i deulu. Gweithiodd yn ddygn hefyd dros bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon, o'i sefydlu ym Mehefin 1976 gan gyfrannu llu o erthyglau iddo ar amrywiol destunau.

Gyda gwaith actio'n prinhau ac yn anwadal erbyn diwedd y 70au, yn haf 1980 ymunodd â gwasg Cyhoeddiadau Mei yn Nyffryn Nantlle fel swyddog marchnata a gwnâi lawer o waith darllen proflenni a golygu yn ogystal. Ymhen pedair blynedd symudodd i swydd gyffelyb gyda Gwasg Dwyfor, lle bu tan 1989.

Ar 24 Mawrth 1984 priododd yng nghapel Rhos-lan â Marian Elias, merch Hafod-y-wern, Clynnog Fawr, a oedd wedi ymgartrefu erbyn hynny yn Garreg Boeth, Capel Uchaf. Yno y symudodd Guto o Ros-lan wedi ei briodas a chawsant oddeutu pymtheg mlynedd o briodas ddedwydd - y ddau yn rhannu'r un gwerthoedd a delfrydau. Ymroddodd y ddau ohonynt i hyrwyddo pob agwedd ar ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yr ardal ac yn ehangach. Buont yn weithgar gyda phapur bro Lleu ac yn aelodau o Gyngor Cymuned Clynnog cyn iddynt symud i fyw i'r Groeslon ym 1994, i dŷ a fu cyn hynny'n gartref i'r llenor Eirug Wyn a'i deulu. Buont hefyd yn cynnal amryfal ddigwyddiadau i gasglu arian at Gronfa Goffa Saunders Lewis ac ym 1994 sefydlwyd Yr Hen Wlad ganddynt - newyddiadur chwarterol o Gymru ar gyfer trigolion y Wladfa. Hefyd, yn ystod y blynyddoedd hyn, er bod afiechyd yn ei lethu, bu Guto a Marian yn rhan allweddol o'r ymgyrch i adfer Cae'r Gors yn gofadail deilwng o Kate Roberts.

Bu Guto Roberts yn wael ei iechyd am nifer o flynyddoedd at ddiwedd ei oes a bu farw ar 4 Mawrth 1999 a'i gladdu ym mynwent eglwys Dolbenmaen. Flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo - sef Y Fo - Guto dan olygyddiaeth ei gyfaill agos Meredydd Evans (Merêd). Mae'n cynnwys "Byrgofiant" iddo (a phriodol cydnabod mai oddi yno y cafwyd y rhan fwyaf o ddeunydd yr erthygl hon), ynghyd â detholiad sylweddol o gerddi ac ysgrifau Guto.

Priodol yw gorffen drwy ddyfyniad o gofnod Meredydd Evans yn ei ddyddiadur ar 4 Mawrth 1999, pan glywodd am farw ei gyfaill:

  "Yr hen gyfaill hoffus, dawnus, penstiff ar brydiau, ar dân dros ei iaith a'i genedl, hael ei ysbryd a'i law, teyrngar i'w gyfeillion, hawdd 
  ei frifo a pharod i gymodi. Buom trwy lawer o helyntion gyda'n gilydd ac mi grïaf lawer ar ei ôl. Gwnaf, a hynny yn chwerw ac yn felys."[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Fo - Guto, Gol. Meredydd Evans, (Gwasg Carreg Gwalch, 2000).