Guto Gethin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Guto Gethin (fl. tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn Nyffryn Nantlle tua chanol yr 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo yw Bod Fasarn, sef yr hen New Inn wrth Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[1]. Dywed traddodiad mai ef oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad ef oedd adeiladydd tai Tre Grwyn neu Tre'r Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domennydd Chwarel Dorothea ers canrif a hanner. Mae W.R. Ambrose yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.

Roedd hen ddywediad ym mhlwyf Clynnog Fawr am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). [2]

Mae Eben Fardd yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybiai Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â Hywel Gethin, y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd yr 16g.[3]

Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad printiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.[4]. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.

Cyfeiriadau

  1. Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau
  2. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7
  3. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4
  4. W.R. Ambrose, loc. cit,; Hywel Tudur yn Y Genedl Gymreig, 25.4.1888, t.8