Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Groeslon)
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw Y Groeslon. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf Llandwrog o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog.

Daeareg a nodweddion ffisegol[golygu]

Gweler erthygl ar wahân ar Daeareg ardal y Groeslon.

Hanes cynnar y pentref[golygu]

Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel (Capel Brynrodyn (MC)) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y Dolydd, yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog Rhosnenan (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r ysgol erbyn heddiw, a'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon).

Crefydd[golygu]

Roedd nifer o addoldai yn y pentref. Gweler dan eu henwau am erthyglau llawn amdanynt.

Y cyntaf i'w agor efallai oedd Capel Bryn'rodyn (MC). Y capeli eraill eraill oedd:

Unwyd capeli Brynrhos a Bryn'rodyn dan enw Capel y Bryn tua 2007, ond fe gaewyd yr achos ym mis Gorffennaf 2018.

Gwerthwyd Capel Gosen yn ystod 2018, gan fod yr adeilad wedi bod yn anniogel ers rhai blynyddoedd. Bellach, mae cynulleidfa'r Annibynwyr yn y pentref yn cwrdd yn y Neuadd Goffa, a dyma'r unig 'gapel' sydd yn dal ar agor yn y pentref.

Roedd eglwys ar gyfer rhannau uchaf plwyf Llandwrog, Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon, wedi ei godi ym 1852-3 ger fferm Cefn-nen. Er bod mynwent ynd al yno, chwalwyd yr eglwys ar ôl ei chau. Codwyd ficerdy ger Tal-y-llyn. Roedd neuadd gwrdd, Ystafell yr Eglwys, a oedd gynt yn adeilad yr Annibynwyr, "Gosen Bach", wrth drofa ger Tal-y-llyn. Mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel siop ddillad priodas a depo nwy.

Masnach a busnes[golygu]

Pan agorodd Rheilffordd Nantlle arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr orsaf ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef railway sub office neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli', gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.[1]

Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn o bobtu'r lôn a arweiniai dros grosin y rheilffordd, sef Y Grugan Arms (sydd bellach wedi ei dymchwel) a'r Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadnabod ar dafod lleferydd fel y Pen Nionyn, Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.

Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor diweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal i fynd. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y Dolydd tua'r un pryd).[2]

Mae erthygl sylweddol ar Siopau'r Groeslon hefyd ar gael ar y Cof, sydd yn rhoi llawer mwy o fanylion.

Roedd y pentref a'r ardal hefyd yn gartref i nifer o fusnesau a fyddai'n cwrdd ag anghenion yr ardal, yn wasanaethau ac yn fân weithfeydd gwaithgynhyrchu. Dyma restr o'r busnesau a fu'n weithgar am gyfnod o leiaf ers 1900[3]:

  • Gweithdy adeiladydd yn Rhes Glynllifon.
  • Y Becws, a fu wedyn yn weithdy teiliwr ac yn weithdy gwneud hetiau cyn troi'n ôl yn fecws.
  • Gorsaf betrol, modurdy a gefail gan Owen parry, wrth ochr Tafarn y Llanfair Arms lle buodd yn dafarnwr.
  • Lladd-dy yn Lleiniau.
  • Lladd-dy yn Nolnennan.
  • Gwaith Llechi Inigo Jones, neu "Injan Grafog" ar dafod leferydd. Fe'i elwir hefyd yn ffurfiol yn "Tudor Slate Works".
  • Gwaith Llechi Llifon, sef Gwaith Hafod y Nant, a elwid "Yr Injan".
  • Ffatri Tryfan, sef melin wlân Maes Tryfan.
  • Melin Forgan, melin flawd.
  • Melin Llwyn-y-gwalch, melin flawd.
  • Gefail yn 1, Rhes Gosen.
  • Gefail yn y Gwynllys.
  • Gefail yn y Garreg Fawr.
  • Gof arian yn Rhoslan.
  • Iard lo, sydd bellach hefyd yn gwerthu hen bethau pensaernïol a defnyddiau adeiladu wedi'u hadfeddiannu.
  • Gweithdy seiri coed a seiri maen yn Nhŷ Popty.
  • Gweithdy saer coed (D.J. Roberts) yn Gladstone House.
  • Gweithdy saer coed (John Williams) yn Rhes Gladstone.
  • Gweithdy gof addurniadol (David Palmer) ym Mhenrhos.
  • Saer ac adeiladwr (William Jones) yn Nhŷ Coch.

Enwogion y pentref[golygu]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017.
  2. Wenna Williams (gol.) Hanes y Groeslon, tt.63-73.
  3. Gwybodaeth leol wedi ei chywain gan Mrs Mari Vaughan Jones