Y Brodyr Francis

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Griffith William Francis)
Jump to navigation Jump to search

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o Dal-y-sarn yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , Drws-y-coed at eu taid, yna i'r Gelli-ffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.

Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936, (fe'i claddwyd ym mynwent Capel Salem (MC), Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes).

Cyfeiriadau[golygu]