Gorsaf reilffordd Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gorsaf reilffordd Pwllheli Road)
Neidio i: llywio, chwilio

Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Pwllheli Road. Enw ar arhosfan ar Reilffordd Nantlle oedd Pwllheli Road, a safai gerllaw safle ddiweddarach Gorsaf reilffordd Llanwnda. Fe'i hagorwyd pan ddechreuodd Rheilffordd Nantlle gludo teithwyr mewn wagenni a dynnwyd gan geffylau ym 1856. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog-fawr a Threfor - - a hyd yn oed Pwllheli (cofier: ar y pryd, ni fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866) gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Er bod Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle) lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt wrth adael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Penygroes.

Fe agorwyd gorsaf wedyn gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf lein Nantlle, ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1964. Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer. [1]

Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.

Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr. Yng nghyfeiriadur Sutton am 1889-90, dangosir manylion y cwmni bach hwn, sef R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd.[2] Roedd seidin ar gyfer y gwaith hwn yn arwain oddi ar y brif lein i'r darn tir sydd bellach yn goedlan rhwng Lôn Eifion a ffordd yr A487.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986)
  2. Sutton's Directory of North Wales, 1889-90