Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Oes fer oedd i Orsaf reilffordd Pen-y-groes ar hen reilffordd Nantlle. Agorwyd yr orsaf yn swyddogol 11 Awst 1856, ac mae amserlenni'n dangos bod trenau'n aros yng ngorsaf Pen-y-groes ar eu ffordd i Gaernarfon ym 1856 am 9.16 a 10.15 y bore a 3.01 a 6.46 y pnawn. Cyrhaeddai trenau o Gaernarfon am 12.24, 5.39 a 7.25 yr hwyr. Cymerai'r siwrne tua awr a deg munud.

Fodd bynnag, fe gaewyd yr orsaf 10 Mehefin 1865, pan dorrwyd y lein drac cul yn ôl er mwyn lledu'r lein rhwng Caernarfon ac Afon-wen. Ar ôl rhyw ddwy flynedd agorwyd Gorsaf reilffordd Pen-y-groes ar y lein fawr.

Pan agorwyd Rheilffordd Nantlle ym 1828, nid oedd angen am orsaf gan na chludid teithwyr (yn swyddogol, beth bynnag). Mae ambell i gyfeiriad beth bynnag at bobl yn teithio ar y lein o'r dyddiau cynharaf. Meddai Samuel Holland yn ei Atgofion (gan sôn am adeg cyn 1832): "Roeddwn yn gyrru'n aml [o Dan-y-bwlch] i Ben-y-groes...ac o'r fan honno byddwn yn mynd mewn tram a dynnid gan un ceffyl i Gaernarfon ac yn ôl, ac weithiau byddwn yn cael paned o de neu ychydig o fara a chaws yn Nhafarn Pen-y-groes." Dichon felly y defnyddid tafarn Pen-y-groes (a safai lle mae Siop Griffiths heddiw) fel math o orsaf ad hoc. Dywedir ymhellach fod yr adeilad unllawr y tu ôl i Siop Griffiths oedd swyddfa Rheilffordd Nantlle, a honnir gan rai felly mai dyma'r orsaf reilffordd hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll.

Cyfeiriadau[golygu]

1. J I C Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1: West (1980), tt.5-115.

2. The Memoirs of Samuel Holland, One of the Pioneers of the North Wales Slate Industry, (gol. Syr William Ll. Davies), Cym. Hanes a Chofnodion Sir Meirionnydd, 1952