Glynmeibion Isaf a Glynmeibion Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Saif ffermydd Glynmeibion Isaf a Glynmeibion Mawr rhwng Y Groeslon a Charmel. Ym 1601 ceir y ffurf Tir yn llyn y meibion issaphe (Casgliad Poole, Gwasanaeth Archifau Gwynedd) a chofnodwyd Llyn y meibion mewn ewyllys ym 1667. Llyn y Meibion bach a Llyn y meibion mawr a geir ym 1795 (Gasgliad Llanfair a Brynodol, LlGC), a ffurfiau cyffelyb, gyda pheth amrywiadau ar y sillafu, a geir yn asesiadau'r Dreth Dir rhwng 1770 a 1778.

Mae'n amlwg mai Llyn y Meibion, neu Llyn y Meibion Mawr a Llyn y Meibion Bach oedd enwau'r ddau annedd hyn i ddechrau, er y defnyddiwyd yr ansoddair isaf (issaphe) yn y cyfeiriad cynharaf a welwyd o 1601. Gwahaniaethwyd rhyngddynt yn ddiweddarach trwy ddefnyddio isaf ac uchaf, ond erbyn hyn defnyddir y ddau ansoddair anghymarus isaf a mawr. Sylwer hefyd mai llyn oedd yr elfen gyntaf yn wreiddiol, nid glyn, a cheir ambell i wyriad i llan a llain mewn rhai ffynonellau. Fodd bynnag, yn asesiad y Dreth Dir ym 1778 cofnodir Glyn y meibeon, a Llunymeibeon / Glunymeibion a gofnodwyd y flwyddyn ddilynol. Glyn yw'r elfen gyntaf yn y mwyafrif llethol o enghreifftiau o hynny ymlaen.

Nid oes modd gwybod pwy oedd y meibion yn y priodolid y llyn neu lynnoedd iddynt. Gallai meibion gyfeirio at ddynion yn gyffredinol ond, yn yr achos hwn, mae'n fwy na thebyg eu bod yn cyfeirio at ryw deulu neu wehelyth arbennig. Dirgelwch nas datrysir bellach mae'n siŵr.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.170-1