George Rhydero

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd y Parch George Rhydero, (1790-1866) yn weinidog ar gapel Drws-y-coed (A) rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,[1], (lle roedd ei deulu, mae'n debyg, yn gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr) daeth i ardal Dyffryn Nantlle ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal ar gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant.[2] Mae'n debyg mai ym Mhant-y-cogau, Drws-y-coed, yr oedd y teulu'n byw ym 1841 adeg y Cyfrifiad, pan nodir fod Ann Rhydero yn cadw siop. Roedd dwy ferch yn byw dan yr un to; nid oedd George adref y noson honno gan nad ydy o'n cael ei enwi, ond fe gofnodir fel gweinidog anghydffurfiol mewn cyfeiriad yn Amlwch.[3]

Symudodd i weinidogaethu yn y Cilgwyn o bosibl, lle roedd Capel Cilgwyn (A) wedi ei godi ym 1842.[4] Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf Capel Gosen (A), Y Groeslon, er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.[5] Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn Rhosnenan, fel y gelwid Y Groeslon y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.[6]

Yng Nghyfrifiad 1851, nodir ei fod yn "weinidog i'r annibynwyr', 60 oed, a bod ei wraig yn saith mlynedd yn hŷn nag ef. Ar y pryd, roedd o'n byw yn un o dai Minffordd, nid nepell o Benrhosnenan a Broniwrch, Y Groeslon, dim ond tafliad carreg o'r Gosen gwreiddiol yr oedd o wedi gwneud cymaint at ei godi.[7]

Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul Capel Moel Tryfan (A).[8] Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.[9]

Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol.

Bu farw ar ddechrau 1866 yn Chorlton, Swydd Gaerhirfryn, sef ardal fabwysiedig ei fab.[10]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. David Edward Pike, Blog Welldigger, [1]
  2. Adysgrif Priodasau a Gostegion Sir Gaernarfon, t.30, [2]
  3. Cyfrifiadau Llanllyfni ac Amlwch, 1841.
  4. Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  5. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  6. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.52
  7. Cyfrifiad 1851, Llandwrog.
  8. Rees a Thomas, op.cit., t.233.
  9. Y Dydd, 17.12.1869
  10. Adysgrif Marwolaethau Cymru a Lloegr, chwarter 1, 1866